Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

33 Xlaòmer^tŵ Cyf XXIII) GORPHENAF, 1907. [Rhif271. NODIADAU AMRYWIOL. " Cysondeb y Ffydd." * Gan mai un o amcanion uchaf y Lladmerydd ydyw meithrin ►chwaeth at ddarllen llyfrau sylweddol yn ei ddarllenwyr, ni warafuna yr un darllenydd deallus i mi ddefnyddio ychydig o ofod y Nodiadau hyn i alw sylw at y gyfrol alluog hon, o waith Dr. Cynddylan Jones. Llai na dwy fìynedd yn ol galwyd sylw at y gyfrol gyntaf o'r gwaith pwysig ac amserol hwn. Afraid bron yw dweyd y cynwysa y gyfrol ymdriniaeth fanwl ac eang ar y mater pwysig hwn, Person Crist. (Nis gallodd yr Awdwr, megis y bwriadai ar y cyntaf, gynwys ymdriniaeth ar " Y Person a'i waith" o fewn terfynau y gyfrol hon; felly ni cheir ynddi ond ymdriniaeth ar y Person yn unig), Yn wyneb y golygiadau an- ysgrythyrol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Berson Crist, dylai Cenedl y Cymry fod yn ddiolchgar i Dr. Cynddylan Jones am .gymeryd hamdden i ymdrin a'r pwnc hwn yn ei holl agweddau, a hyny gyda'r fath oleuni, ag sydd yn rhoddi boddhad i'r darllen- ydd, trwy ei alluogi i dreiddio ymhellach ac yn ddyfnach i ddir- gelwch mawr duwioldeb. Y mae y gyfrol yn addfed ffrwyth meddwl cryf a diwylledig, a hwnw wedi ei ystorio a gwybodaeth eang am y pwnc yn ei wahanol gysylltiadau. Rhaid ei fod wedi •darllen yr awduron galluocaf, a dysgedicaf, hen a diweddar, ac nid eu darllen yn frysiog i gasglu defnyddiau i wneyd llyfr; ond eu darllen a'u cymeryd i mewn, fel y mae tir yn cymeryd gwrtaith, i gryfhau a ffrwythloni adnoddau cynhenid ei feddwl ei hun. Y mae pob rhan o'r gwaith wedi ei feddwl mor drwyadl, fel y mae yr awdwr yn gallu ysgrifenu gyda meistrolaeth dawel, fel y swyn- ìr y darllenydd i fyned ymlaen heb flino o'r dechreu i'r diwedd. Pe buasai ein holl dduwinyddion wedi ysgrifenu mor glir a hyn, ac mewn ieithwedd mor naturiol a hyfryd, ni chollasai y wlad ei harchwaeth at dduwinyddiaeth i'r fath raddau ag y mae. Y mae pob dyn sydd yn meddwl yn drwyadl, yn gallu ysgrifenu yn glir; ac nid yw y tywyllwch a'r trwsgleiddiwch, a geir yn ngwaith rhai wrth geisio ysgrifenu neu lefaru, yn ddim ond cysgodion y "tywyllwch a'r annhrefn sydd yn meddwl yr awdwyr. Ond am Dr. Jones, y mae ef yn dirnad yr hyn y mae yn ei draethu, ac am hyny "* Cysondeb y Ffydd, Duwinyddiaeth Athrawiaethol. Cyf. II. Person y Mab a'i Waith: (i) Person Crist. Gan J. Cynddylan Jones, D.D. Cyhoeddedig gan yr Awdwr,—Whitchurch, Cardiff. 1907.