Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

13 Xlaòmen>ÖÒ. Gyf XXIII] MEHEFIN, 1907. [Rhif 270. NODIADAU AMRYWIOL. Y Parch. T. Bhondda Williams a'r Dduwinyddiaeth Newydd. Diau na wyr llawer o ddarllenwyr y Lladmerydd fawr ddim am Mr. Rhondda Williams : er mwyn y rhai hyny, dymunir dweyd, mai gweinidog Ymneillduol poblogaidd yn Bradford ydyw; a Chymro o genedl fel y mae ei enw yn arwyddo. Ymddengys ei fod ef er's rhai blynyddoedd, o fiaen Mr. Campbell, yn credu ac yn pregethu y ddysgeidiaeth a elwir yn " Dduwinyddiaeth Ne- wydd." Yn awr y mae wedi cyhoeddi llyfr i osod allan ac egluro ei olygiadau. Nid ydyw yntau yn ceisio profi gwirionedd ei ddal- iadau trwy ymresymiad nac Ysgrythyr, ond yn disgwyl i'r dar- Jlenydd dderbyn ei haeriadau fel gosodiadau hunan-brofedig. Ond yr anffawd ydyw riag ydynt yn ymddangos felly i neb ond efe ei hun, a'r rhai sydd yn cydolygu ag ef. Anwybyddu pob cwestiwn o anhawsder y mae y dynion hyn, ac nid eu cyfarfod yn deg, a'u symud ymaith. Ond y mae Mr. Rhondda Williams yn fwy rhydd a gonest na'r rhan fwyaf o'i frodyr yn y ffydd ddi- eithr hon. Addefa ef fod y rhai sydd yn dal yr un goíygiadau ag ef o fwriad yn dra distaw ar y cwestiwn, A oedd Iesu Grist yn gymeriad dibechod. Yr unig reswm am nad ydynt yn caru dweyd llawer ar hyn, medd ef, ydyw y ffaith eu bod yn caru yr Iesu mor fawr, fel nad dymunol ganddynt ddweyd dim yn anffafr- iol am dano. Nid ydynt yn credu ei fod yn ddibechod; ac nid yw Mr. Rhondda Wiliiams yn credu ei fod felly. Ac yn y llyfr hwn cawn ei resymau ef dros fethu credu hyny. Dywed nad oes genym fywgraffiad cyfiawn o'r Iesu ymhob cyfnod o'i fywyd ar y ddaear. Nid yw y tair Efengyl Cyntaf yn rhoddi hanes holl oes Iesu Grist, dim ond cofnodi lliaws o ffeithiau a gymerodd le yn ystod 'ei weinidógaeth gyhoeddus, yr hyn ni pharhaodd fawr yn fwy na thair blynedd. Y mae pob un o-'r efengylwyr yn gym- harol ddistaw am y deng mlynedd ar hugain cyntaf o'i oes yn y byd. Addefa Mr. Rhondda Williams nad oes un bai na eham- ymddygiad yn cael ei gofnodi yn yr hanes am dano gan yr efeng- ylwyr hyn. Y mae ef yn gwneyd i ffordd yn hollol ag Efengyl Ioan, ac nid yw yn gwneyd cyfrif o ddim a ddywedir am dano yn y bedwaredd efengyl, yn yr hon y mae honiadau pendant o eiddo yr Iesu ei fod yn ddibechod. Felly rhaid î ni farnu ei gymeriad yn ngoleuni dysgeidiaeth Mathew, Marc, a Luc. Addefìr gan yr awdwr ei fod yn ddibechod cyn belled ag y mae y ffeithiau a gof- nodir o'i hanes yn yr efengylau hyn yn profì hyny. Ond nis gall,