Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

î£ XIaömer^ò6. Cyf XXII.] MEDI, 1906. [RhifêÔL Crvnhodeb o Ddarlíthíatt Dr. Lewís Edwards yn Athrofa y Baía—Í 873-4. Daelith IX.—Digonolrwydd a Neillduolrwydd yr Iawn. Cyn myned at y pwnc sylwodd y Doctor ar amryw bethau mewn cysylltiad a marwolaeth ei anwyl ferch, a chynghorodd y myfyr- wyr feithrin gfwir grefydd. Nid yw yn ddigon llafurio i ddeall düwinyddiaeth yn iawn, ond dylid hefyd ofalu am y rhan ymarfer- ol o grefydd; a bod yn ddyfal mewn g-wylio a gweddio mewn trefn i osgoi maglau yr un drwg.....Yn awr, galwaf eich sylw at y mater. Yr oedd y ddarlith ddiweddaf ar y ddau gyfer- byniaeth yn athrawiaeth fawr yr Iawn—ei neillduolrwydd a'i holl- ddigonedd. Y mae yn yr holl athrawiaethau mawr ddau bwynt sydd yn ymddangos yn wrthwynebol, eto nis gallant fod felly, hyd yn nod pan na allwn ni brofi a gweled eu cysondeb. Y mae llawer o bethau nad ydym ni yn abl i weled eu cysondeb, eto y maent felly mewn gwirionedd. Nid yw ein bod ni yn methu canfod eu cysondeb yn profi nad ydynt felly. Felly yma, y mae digonolrwydd yr Iawn a'i neillduolrwydd yn berffaith gyson, er fod llawer yn methu canfod eu cysondeb. Gadewch i ni gymeryd am fynyd y ddwy ochr ar wahan : — i. Neillduolrwydd yr Iawn. Hyd yn nod pe na buasai ethol- edigaeth, buasai raid fod neillduolrwydd yn perthyn i'r Iawn. Gadewch i ni dybio er mwyn ymresymiad nad oes y fath beth ag etholedigaeth, rhaid fod neiílduolrwydd yn meddwl y Tad yn rhoddiad v Mab; ac hefyd yn meddwl y Mab pan yn marw. Pe meddyliem am ei hollwybodaeth, rhaid ei fod yn gwybod pwy a edifarhai ac a gredai; ac hyd yn nod i achub y rhai hyny yr oedd yn rhaid cael Iawn. Hyd yn nod yn ol y golygiad Arminaidd, rhaid fod neillduolrwydd yn yr iachawdwriaeth. Os na chedwm pawb, os na chedwir neb ond y rhai a gredant, y mae y ffaith arbcnig hoo.yn gwneyd y rhaîd fod Duw yn gwybod i bwy yr oedd yr Iawn, sef i'r rhai a gedwir. Ac y mae y ^"wyddhwn yn beth sydd yn bod yn meddwl y Tad a'r Mab, Yr oedd gwrth- ddrychau mewn golwg wrth roi y Mab i fod yn lawn, a bwnad