Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

35 Xlaòmer>ẃò- Cyf.XXIL] AWST, 1906. [Rhif £60 Crvnhodeb o Ddarlíthíati Dr. Lewís Edwards yn Athrofa y Bala,—í 873-4. Darlith VIII.—Gwaith Crist. Y mae yn deilwng o sylw fod cryn wahaniaeth rhwng y Duwinydd- ion Anglicanaidd a'r Puritaniaid yn eu dull o drin gwirioneddau yr Efengyl. Wrth y cyntaf y golygaf dduwinyddion Eglwys Loegr, wrth yr olaf y rhai a ddadleuant dros ryddid yr Eglwys. Arhosai Duwinyddion Egiwys Loegr fwy ar Berson Crist nag ar •ei waith, ond nid oeddynt yn cau allan ei waith. Ysgrifenai y Puritaniaid yn fwy ar waith Crist, ond heb gau allan ei berson. Nid aeth hyd yn nod Dr. Owen ymhell ar berson Crist, er iddo ysgrifenu yn benodol arno. Fe ddelir allan yn eglur a chysylltiol yn yr Ysgrythyrau, fod rhagoriaeth person Iesu Grist yn rhoddi g-werth ar ei waith ; ac ni ddylem ninau eu gwahanu. Bu dad- leuon dibendraw ar yr Iawn; yn neillduol ehangder yr Iawn; pa un a fu Crist farw dros bawb, ynte dros yr etholedigion. Y mae y ddau ofygiad fel y cyfiwynir hwynt i'n sylw gan yr Arminiaid a'r Calfiniaid, sef yr uchel-Galfiniaid; ac eto y mae gwirionedd yn y naill olygiad a'r llall. Eto credaf fod Arminiaeth o'i lle, am ■ei bod yn ddiffygiol; nid yw yr holl wir ganddi. Ni fedd yr Arminiaid ond rhan o'r gwir; ac yn hyn yn fynych y mae cyfeil- iornad yn gynwysedig. Nid ydynt yn dal allan yr holl wirionedd, a dim ond y gwirionedd. Y mae gan y Sociniaid wirionedd, cred- ant yn y bod o Dduw, ac y mae hwn yn wirionedd sylfaenol. Ond y mae gẃionedd arall yn cael ei gau allan o'u credo, sef Trindod o bersonau yn yr un Duw hwn. Y mae y Calfiniaid, yn enwedig yn Lloegr, yn uchel-Galfinaidd. Nid oedd Whitefield ei hun yn uchel-Galfinaidd, ond yr oedd ef yn iawn yn ei olygiadau, yn credu y.n ngalwad gyffredinol yr efengyl. Ond aeth llawer iawn o'i ^■anlynwyr ef yn gyfeiliornus. Cyfarfyddais lawer o honynt yn Uoegr, hyd yn nod weinidogion yr efengyl, yn ymffrostio nad •oeddynt byth yn galw pawb at Grist yn eu pregethau, dim ond yr etholedig-ion. Mae y Saeson y fath bobl faterol, nid oes ganddynt