Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf.XXIL] OORPHENAF, 1906. [RhiffrW Crvnhodeb o Ddarlíthíati Dr. Lewís Edwards yn Athrofa y Bala—Í 873-4- Darlith VII.—Person Crist. Darllenwch Hodg-e's * Systematic Theology ' ar faterion y ddar lith ddiweddaf, yr ''Ymwaghad;" ac hefyd Hooker ar " Berson Crist." Yna eglurodd frawddeg Calvin, yr ho<n a ddefnyddid gan y Tadau yn Latin,—Cristus est totus ubique, sed non Cristus totus ubique est. Mae Crist oll ymhob man, ond nid yw yr oll o Grist ymhob man. Y meddwl yw fod yr oll o Grist fel Duw-ddyn ymhob man, ond o ran ei ddyndod nis g-all fod ymhob man ar unwaith. Meidrol yw dyndod, nis gall fod ond felly. Eto y mae dynoliaeth wedi ei dyrchafu mor uchel yn mherson Crist, fel er nad vw ei ddyndod ymhob man ar unwaith, eto yn rhinwedd dwyfoldeb ei berson gall fod ymhob man neu mewn unrhyw le. Ac y mae yn Hollalluog yn yr ystyr ag y gall wneyd unrhyw beth posibl yn rhinwedd ei ddwyfoldeb. Rhaid i mi aros ychydig ar y syniad cyfeiliornus ar yr " ymwag-had,''-— Crist yn dibrisio ei hun. Da ydyw cael at wraidd gwirionedd, neu at wraidd cyfeiliornad. Un o wreiddiau cyfeiliornad Ebrard ydyw cymeryd cyfnewidiad bodolaeth yn lle cyfnewidiad sefyllfa. Ni newidiwyd bodolaeth Crist o g-wbl, ni ddaeth yn is na llai na Duw ; ni waghiaodd ei hun o'i briodoliaetb.au fel y dywedant hwy, ond daeth i'r sefyllfa isaf. Pe bvddai dyn wedi ei eni yn rhydd yn dyfod yn gaethwas; ni wnai'hyn yn y gradd lleiaf newid ei berson, er hyny diosgai ef o'i rydldid'. Daeth Crist yn gaethwas, a rhaid priodoli hyn i'r oll o Grist, nid i'w ddyndod ond hefyd i'w Dduwdod. Fe'i gwnaed ef o dan y ddeddf, y mae hyn yn g-ymhwysiadbl ond at ei Dduwdod, yr oedd o angenrheidrwydd o dan y ddeddf o ran ei ddyndod. Efe fel Duw, oedd yn meddu rheolaeth yr holl fydoedd, a wnaed dan y ddeddf, a ddaeth yn ddarostyngedig- i'r gyfraith. Cytuna yr holl dduwinyddion uniongred i briodoli yr oll i berson Crist, nid i un natur;' ond i berson tragywyddol Crist. Aeth rhai o'r hen dduwinvddion mor bell a dweyd fod Duw wedi marw, fod Duw wedi dioddef ar y groes. Ar y pwynt hwn y darfu i Howel