Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Î5 3Llaòmer^ò6- Gyf.XXII] MAWRTH, 1906. [Bhif255. Crynhodeb o Ddarííthiatí Dr. Lewís Edwards yn Athrofa y Baía—1873-4- Darlith III.—Tarddiad Enaid. Y mae dau olygiad ar darddiad enaid' pob dyn unigol, y iaf, Cre- adigaeth; 2Ì1, Deilliadaeth. Nid oes llawer o beryg'l yn yr olaf, sef fod enaid yn cael ei genhedlu yn debyg neu yr un fath a'r corff, neu ei fod yn deillio o'r rhieni fel y corff. Ond y mae yn amlwg mai creadigaeth ydyw y golygiadl Ysgrythyrol. Y mae Duw yn creu pob enaid unigol, ac yma y mae yr anhawsder, os yw Duw pur a pherffaith yn creu pob enaid ar ei ben ei hun, hyny y\v, fod pob enaid; yn greadigaeth wahaniaethol o eiddo Duw Sanctaidd, pa íoàé y maent yn llygredig? Ond y mae yr an- hawsder yn gorwedd yn sefyllfa bresenol pethau, yn fwy feallai nag yn y rheswm am dano, a dylem bob amser amcanu at sicrhau pa le y mae yr anhawsder, fel y mae y meddyg medrus bob amser yn edìrych beth sydd' o'i le cyn darparu a chymwyso y feddygin- iaeth. Er fod yr anhawsder yn sefyllfa bresenol pethau, eto y mae yn gyfiawn i bethau fod' fel y maent. Buasai yn gyfiawn yn y Duw mawr oddef i bethau fod fel y maent, nid yn unig ar gyf- rif ein cysylltiad ag Adda, ond1 hyd yn nod; heb y cysylltiad hwnw. Ar yr un pryd y cysylltiad rhyngom ni ag Adda ydyw rheswm Duw am sefyllfa bresenol pethau. Gwelir yr un eg- wyddor yn eglur yn sefyllfa bresenol yr Iuddewon. Fe ddefn- yddir ymad:roddion cryfacb gyda golwg arnynt hwy nag a ddefn- ydtìir gyda golwg ar Adda. Y mae yr Iuddewon wedi eu cau mewn anghrediniaeth, oherwydd camwedd mawr eu hynafiaid yn gwrthod y Messiah. Cyfrifir y camwedd hwnw idd}-nt hwy. Y camiwedd hwnw yw y rheswm am eu sefyllfa bresenol o anghred- iniaeth, yr hyn yr wyf fi yn ei feddwl wrth gyfrifiad, Er hyny, ni chosbir cymaint ag un o'r Iuddewon ar ol y rhai a gyflawnodd