Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYF. IV. MAWRTH, 1888. Hhif 39. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XXXIX. " Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig trwy ffydd ; a hyny nid o lionocli eich hunain : rhodd Duw ydyw. Nid o weithredoedd, feí nad ymffrostiai neb." —Eph. ii. 8, 9. Y mae esbonwyr yn amrywio ynghylch cyfeiriad y gair "hyny." Y mae rhai yn barnu ei fod yn cyfeirio at y gair " ffydd." Meddwi yr apostol felly yw, nid yn unig fod trefn cadw pechadur o ras, ond fod y " ffydd " â'r hon y cysylltir pechadur â'r dref n hono o ras hefyd, ac yn rhodd Duw ; felly, fod pob lle i ymffrostio wedi ei gymeryd oddiar y dyn. Y mae eraill—Galfìn yn eu plith—yn barnu fod "hyny " yn cyfeirio at y gair " cadwedig ;" a'r meddwl felly yw, fod cadw o Dduw, ac nid o ddyn —o ras, ac nid o weithredoedd. Dros y golygiad cyntaf, gellir dweyd mai " ffydcl" yw y gair olaf yn y frawddeg fiaenorol; dros yr ail, mai cadw yw y gair penaf. "Cadw," ac nid "ffydd" yw pwnc mawr y benod : y mae yn cael ei alw yn fywhad, yn adgyfodiad, ac yn greadig- aeth, ac y mae "hyny" yn debycach o gyfeirio at y gair penaf nag at y gair olaf o'r frawddeg flaenorol. Heblaw hyny, y mae " nid o weithred- oedd" yn eglurhad ar y geiriau "nid o honoch eich hunain," ac nid yn ychwanegiad atynt. Pe buasent yn ychwanegiad, eysylltid y ddau ym- adrodd gyda " ac;" yr un peth felly a ddeallir wrth "nid o honoch eich hunain," ac "nid o weithredoedd." Nid o honynt eu hunain, sef nid o weithredoedd, yr oeddynt gadwedig. Y mae hyn yn cynwys mai y dyn yw ei weithredoedd, a bod nodwedd- au y dyn yn rbedeg trwy ei weithredoedd, fel mai ffol ydyw dweyd fod •dyn yn meddu ar nodweddau, a gwadn y rhai hyny yn ei weithredoedd. Y mae yn un nodwedd berthynol i ddyn, ei fod fel dyn yn ddyledus i Dduw—dan rwymau angenrheidrwydd fel creadur. Fel person rhesymol y mae dan rwymau i fod yn eirwir, yn onest, yn sobr, yn llawn cariad at Dduw a dynion : ac y mae o angenrheidrwydd yn gyfrifol i Dduw am y cwbl ag ydyw, ac ni fedr dim byth ei ryddhau oddiwrth ei rwymedig- aethau. Peidio bod yn ddyn yn unig a fedr ei ryddhau; ac y mae