Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^o Jlatorgíti Cyf. X. TACHWEDD 1891 Rhif 119. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charies Davies, M.A., Trefecca. RHLIF CXV. '• lìyddwch gan hyny ddilynwyr Uuw, fel pîant anwyl." Ern. v. 1. Y mae yn amlwg mai nid dilyu Duw yw gwneuthur gwcithred- oedd tebyg o ran ymddangosiad allanol i weithredoedd Duw. Dynwared a fyddai hyny, nid dilyn : ac y mae gwahaniaeth amlwg a phwysig rhwng y ddau. Y mae y dynwaredwr yn ceisio gwneuthur yn debyg i un arall—cerdded yn debyg, siarad yn debyg. ac ystumio yn debyg; neu os proffesa fod yn Uenor, ysgtifenu yn debyg o ran dullwedd iaith. Y mac pob dyn wrth ddynwared yn disgyn i ryw raddau islaw iddo ei hun, pa mor fychan bynag y bo wrth natur ; am fod y nodweddion allanol y mae yn ddynwared mewn arall yn annaturiol iddo ef, pa mor naturiol bynag y maent i hwnw. Y pethau hawddaf eu dynwared ydyw rhyw hynodrwydd, ac yu aml gwendid ac nid rhagoriaeth ydyw yr hynodrwydd hwnw. A phan nad ydynt yn wendid, pethau lleiafac nid pethau trymaf dyu mawr a ddynwaredir. Fe wneir hyn weithiau trwy geisio, ac ambell waith heb geisio, trwy yr argraff y mae rhai dynion yn alluog i'w roddi o honynt eu hunain yn eu neillduoliou ar bawb o fewn cyraedd eu dylanwad. Ond y mae dilyn yn golygu cyfranogi o'r un ysbryd, a hwnw vn gweithio allan yn naturiol mewn gweithredoedd cytatebol. Dynwared fuasai gwaith y Thesaloniaid yn myned i wneuthur pebyil, am mai gwneuthurwr pebyll oedd Paul. E-i. ddilyn fuasai gyda'r un annibyniaeth meddwl, " fel ua phwysem ar neb o honoch,'' yn amlygu ei hun mewn gweitaio wrth unrhy w gelfyddyd. Dynwared Paul îuasai i rai o'r Corinthiaid i geisio gwneuthur daioni yn yr un ffurf ag ef. Fe fuasai dynwaredwr yn dechreu