Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llittergítl Cyf X. HYDREF 1891 Bhif 118. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. B. Charles Daries, M.A., Trefecca. RHIF CXIV. " A byddwch gymwynasgar i'ch gilydd, yn dosturiol, yn maddeu i'ch gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Crist i cliwitb.au."—Eph. IV. 32. Y MAE yr adnod hon yn dangos fod y maddeuant y mae Duw yn ei roddi,—ei ysbryd wrth ei roddi, a'i drefn o'i roddi—yn g) nllun o'r ysbryd a'r modd y dylai dynion faddeu i'w gilydd. Y mae y cynllun yn gymhelliad i ddyn, ac yn apelio at yr uchelgais sydd ynddo fel creadur rhesymol. Yr oedd yr uchelgais yma mewn dyn yn ei sefyllfa o berffeithrwydd ; ac at y duedd hon yr anelodd y diafol ei saeth, pan osododd ger ei fron y wybodaeth uchel oedd i'w chyraedd trwy fwyta o ffrwyth y pren gwaharddedig— " Byddwch megis 'duwiau." At hwn yr apeliodd yn y brofedigaeth a osododd gerbron yr Arglwydd Iesu, pan y dangosodd iddo holl ogoniant y byd. Yr oedd y demtasiwn i enill awdurdod a meddiant trwy foddion angbyfreithlawn i'r ail Adda, yr un peth a'r demtasiwn i enill gwybodaeth trwy foddion anghyfreithlawn i'r Adda cyntaf. Y mae yr uchelgais am fwy'yn cael ei lethu ambell waith gan ddiogi a hunan-foddhad, ac ar brydiau eraill yn cael ei lygru trwy fod dyn yn ymestyn, un ai am bethau gwaharddedig, neu i amcanion pechadurus.. neu trwy foddion annheilwng. Pan y mae ei uchelgais wedi ei lygru yn y tair ffordd, y mae dyn yn cael ei ddarostwng i'r sefyllfá isaf o bechod ; oherwydd llygriad y peth goreu y w y peth gwaethaf. Cynllun dyrchafedig gerbron y meddwl sydd yn rhoddi cyfeiriad priodol i'r uchelgais naturiol, ac yn ysgogi ei weithrediad. Y mae gwrhydri y naill, athrylith y llall, dyn- garwch y trydydd, i raddau uwch na'r cyffredin, cyn hyn wedi gwneuthur eu perchenogion yn fath o dduwiau yn ngolwgy lliaws,