Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3Üaámergá& Gyf. X. GORPHENAF, 1891 Rhif 115. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca. RHIF CXI. " Yr hwn a ladrataodd, na ladrated mwyach : eithr cymered boen, gan weithio a'i ddwylaw yr hyn sydd dda ; fel y byddo ganddo beth i'w gyfranu i'r hwn y niae angen arno." Eph. IV. 28. Y mae yr adnod hon yu cynwys y drydedd esiampl o ddiosg yr hen ddyn a gwisgo y newydd. Yn adnod 24, fe nodir tair egwyddor a gynwysir yn hyn,—cyfiawnder, sancteiddrwydd, a gwirionedd. Y mae adnod 25 yn enwi dywedyd y gwir fel esiampl o wirionedd. Y mae adnod 26 yn enwi digoíàint f'el esiampl o sancteiddrwydd ; ac y uiae adnod y testyn yn cynwys esiampl o gyfiawnder, mewn gonestrwydd ymarferol. Y mae hefyd yn cynwys yr ychwanegiad o ddiwydrwydd at onestrwydd; ac o haelioni at ddiwydrwydd. Ac fe enwir haelioni, nid fel dyledswydd, ond fel amcan priodol i'r ddyledswydd o fodyn ddiwyd. "Bydded ddiwyd fel y byddo ganddo beth i'w gyfranu." Byddwch onest, nid yn onest a diog, ond yn onest a diwyd ; ac nid diwyd a hunanol,' ond diwyd a haelionus, a diwyd er mwyn bod yn hael. Ohd y mae y dyledswyddau o fod yn onest, diwyd, a hael, yn rhwymedigaethau ar ddynion tuag at eu gilydd. Y mae cyfraith y wlad yn galw arnynt i fod yn onest a gweithgar: ac y mae sefyllfa cymdeithas yn galw yn aml am haelioni, ac y mae y dyled- swyddau cyíFredin hyn o fewn y Beibl hefyd. Ond y mae nodwedd iddynt o fewu y Beibl nad ydynt yn ei feddu y tuallan iddo. Y mae y nodwedd yma yn gynwysedig yn hyn, yn arbenig, eu bod yn cael eu dangos yn y Beibl yn eu perthynas â Duw. Am hyny, yn lle bod yn is, y mae gonestrwydd, diwydrwydd, a háelioni, o fewn y Beibl, yn annhraethol uwch nag y maent o'r tuallan iddo. Un berthynas a ddangosir yma ydyw, fod Duw yn eu gorchymyn. Y