Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fMttwdi Cyf X. MEHEFIN, 1891 Mhif 114. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Dauies, M.A., Trefecca. RHIF CX. " Digiwch ac na phechwch ; na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi; ac na roddwch le i ddiafol."—Eph. iv. 26, 27. Y mae y geiriau hyn yn cynwys yr ail esiampl o ddodi heibio yr hen ddyn, a gwisgo y dyn newydd. Y mae y cyngor yn y geiriau yn dangos y gwirionedd pwysig, fod yn bosibi, i'e, fod perygl i ddyn bechu trwy y cyflawniad o'i ddyledswydd ; ond nid y w y perygl yn gorphen wrth ei chyflawni, gan y dichon i'r cyflawniad ei hun fod yn achlysur pechod. Y mae gwahaniaeth rhw'ng y ddau bechod. Y mae esgeulusdra gwirfoddo), parhaus o'r hyn y gwyr dyn sydd yn ddyledswydd arno, yn profi diffyg egwyddor dda, tra y mae ílithro i bechod trwy gyflawni dyledswydd, yn brawf o nerth llygr- edigaeth yn y dyn sydd ganddo egwyddor dda. Y mae nerth y llygredigaeth yn ymddangos yma, nid trwy fod pethau amheus a phethau cyfreithlawn yn achlysuron pechod, ond trwy fod cyf- lawniad o ddyledswydd ag y byddai ei hesgeuluso yn bechod, ei hun yn achlysur pechod. Y rheswm yw, fod llygredd yn ei Avreiddyn yn natur dyn, ac am hyny y try bobpeth, dwyfol a dynol, yn achlysur pechod. Y mae yr un peth yn wir o'r ochr arall. Pan y mae y natur yn berffaith bur fel y mae yn Nuw, nid yn unig fe wna ddaioni trwy foddion cymwys; ond heblaw hyny, fe dry y drygau a wnaed gan eraill yn achlysuron bendith i'r byd. Ac oherwydd yr un rheswm ag y mae calon lân Duw yn troi drygau yn fendith, y mae calon aflan dyn yn troi bendithion yn ddrygau ; a'r canlyniad yw, nad oes yr un fendith mor oruchel a dwyfol nas defnyddir gan galon lygredig yn achlysur i bechod, ac nad oes yr un ddyledswydd ag y mae yn bosibl i ddyn ei chyflawni