Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMtttërgái Gyf X. MAI, 1891 Rhif 113. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Dauies, M.A., Trefecca. RHIF CIX. "Oherwydd paham, gan fwrw ymaith gelwydd, dywedwch y gwir hob un wrth ei gymydog ; oblegid aelodau ydym i'n gilydd."—Eph. iv. 25. Y ddyledswydd yn yr adnod hon ydyw yr esiampl gyntaf a enwir o'r egwyddorion pwysig a nodwyd yn yr adnodau blaenorol. Fe osodwyd yr egwyddorion i lawr mewn geiriau eang, digon eang i gynwys pob dyledswydd mewn meddwl a gweitbred. Un peth, er hyny, yw cydnabod gwirionedd egwyddor gyffredinol, peth arall yw teimlo y ddyledswydd ymarferol a gynwysir ynddi. Fe wyddai yr apostol hyny, am hyny y mae yn enwi rhestr o honynt, gan ddechreu gyda geirwiredd. Fe'i harweiniwyd at hwn yn gyntaf gan y gair gwirionedd yn yr adnodau blaenorol: " Y gwirionedd yn yr Iesu,"—cyfiawnder a sancteiddrwydd gwirioncddol. Wrth wiiionedd y meddylir cydymffurfiad â natur Duw fel safon ; ac y mae cyfiawnder a sancteiddrwydd yn y cydymffurfiad hwnw—bod yn ol Duw. Un esiampl o'r cydymffurfiad hwnw ydyw dywedyd y gwir. Y mae "bwrw ymaith gelwydd" yn esiampl o "ddiosg yr hen ddyn," a"dywedyd ygwir" yn esiampl o "wisgo y newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd." Y mae celwydd yn fwy eang na'r hyn a ddywedir, neu yr hyn a gelir â'r tafod. Fe sonir am "garu a gwneuthur ceiwydd" (Dat. xxii. 15); "nac yn gwneuthur ffieidd- dra na chelwydd" (Dat. xxi. 17). Gan fwrw ymaith gelwydd o bob man,—o'r meddwl, o'r teimlad, o'r tafod, o'r weithred,—"dy wed- wch y gwir bob nn wrth ei gymydog." Y mae y rheswm a roddir dros hyny yn egluro pwy a feddylir wrth y cymydog,—cyd-aelod eglwysig: "Aelodau ydym i'n gilydd." Pa resymau bynag sydd