Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SWmergM. Cyf. X. EBRILL, 1891 Rhif 11%. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca. RHIF CVIII. " A gwisgo y dyn newydd, yr hwn yn ol Duw a grewyd inewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd." Eph. iv. 24. Y mae y geiriau hyn yn cynwys darluniad o'r hyn y mae Duw, trwy yr efengyl, yn dysgu dyn i fod ac i weithredu. Y mae i - fod yn sanctaidd, ac i weithredu yn sanctaidd, ac y mae y sancteidd- rwydd hwnw, yn I. Yn ddynol; ac yn II. yn ddwyfol. Y mae yn ddynol gan mai dynion sydd i wisgo y dyn newydd am danynt. Y mae yn ddwyfol am fod y dyn newydd wedi ei greu, ac wedi eî greu yn ol Duw. I. Y MAE SANCTEIDDRWYDD MEWN DYN YN DDYNOL O RAN EI FFURF. , Er ei fod yn ddynol o ran ei ffurf, nid y w feíly o ran ei ffynhonell. Y mae y dwfr bob amser yn cymeryd ffurf y llestr y tywelltir ef iddo. Y mae hyn yn wir am bechod. Yn yr ysbryd drwg, y mae yn ddrwg ysbrydol (vl 12) ; ond mewn dynion y mae yr " hen ddyn " yn ddrwg ysbrydol, ac anifeilaidd hefyd. Y mae sancteidd- rwydd yn gyffelyb. . Yn Nuwy mae yn ddwyfol yn unig; mewn angel yn ddwyfol ac angelaidd ; mewn dyn yn ddwyfol ddynol, yn " ddyn newydd." Y mae ei ffurf mewn dyn yu hollol wahanoí i'w ffurf yn Nuw. Y mae yn Nuw yn cymeryd y ffurf o orchymyn awdurdodol, yn haẅlio ufudd-dod. Tra y mae yn dduwioldeb ì ddyn feddu aryr un anian ag sydd yn Nuw, y maeynrhyfyg iddo roddi yr un ffurifar ei gweithrediad ag sydd iddi yn Nuw. Ceisio hyn yw un o nodau y dyn pechod, " hyd onid yw efe megis Buw;" nid 9 ran egwyddor, ónd o ran ffurf. O'r ochr arall, un ò'r ffijrfì^u uchaf odduwioldeb meŵn dyn yw addoliad, ac y mae hyn ŷn ffurf