Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fMmrtwdi Gyf X. MAWRTH, 1891 Bhif 111. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Gharles Dauies, M.A., Trefecca. RHIF CVII. " Ac ymadnewyddu yn ysbryd eich meddwl." Eph. IV. 23. . Tuedd naturiol pob creadur yw dirywio oherwydd mai creadur ydyw. Y mae pob creadur o angenrheidrwydd yn derfynol, ac yn ddibynol ar ryw allu tuallan iddo ef ei hun ; am hyny terfynol yw y cwbl a fedr gynwys ar y tro. Mesur o nerth sydd gan y cryfaf; mesur o iechyd sydd gan yr iachaf; mesur o synwyr sydd gan y doethaf; a mesur o ras sydd gan y goreu. " I bob un o honom y rhoed gras, yn ol mesur dawn Crist." " Yn ol nerthol weithrediad yn mesur pob rhan." Ar ol defnyddio y rnesur hwnw, fe adfeilia, fe wywa, fe ddiflana, oddieithr iddo dderbyn mesur adnewyddpl o rywle tuallan iddo ei hun. Os yw y lle hwnw yn ífynhonell ddi- hysbydd, rhaid mai Duw ei hun ydyw. Y mae dynion annuwiol yn agored i ddirywio a myned yn fwy annuwiol. Er heb Dduw, y mae gan ddyn wrth natur lawer o bethau dymunol i'r golwg. Ond y mae yn agored i'w colli ac i fyned yn fwy llygredig. Nid oes graddau mewn marwolaeth, ond yn y llygredigaeth sydd yn dilyn marwolaeth. Y mae felly yn naturiol. Yr un yw marwolaeth naturiol i bawb yn ddiwahan- iaeth; ysgariad corfif ac enaid oddiwrth eu gilydd. Y mae yn un weithred bendant, sydd- yn cymeryd Ue ar foment neillduol, heb raddau yn perthyn idcíi. Ond y mae graddau yn llygredigaeth y corff ar ol marw. Y mae rhai cyrff yn fwy llygredig nag eraill, ac yn llygru yn gynt nag eraill; ond y mae pob corff yn tueddu o'i ran ei hun i fyned yn fwy llygredig. Pa mor brydferth bynag oedd ei olwg ar y diwrnod yr ymadawodd yr enaid o hono, fe lygra fwyfwy nes y bydd raid ei gladdu allan o'r golwg. Felly nid oes