Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

öyf X GHWEFROR, 1891 Rhif 110. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca. R H1F C VI. " Dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen d(iyn, yr hwn sydd lygredig yn ol y chwantau twyllodrus."—Eph. IV. 22. Y MA.E y geiriau hyn yn cynwys rhan o addysg yr efengyl: " Os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae y gwirionedd yn yr lesu : dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hen ddyn." Y mae perbhynas y geiriau â'r rhai canlynol yn dangos mai gweith- redoedd yr hen ddyn, yr hwn y gorchymynir ei ddodi heibio, yw gweithredoedd a theimladau pechadurus; oherwydd fel esiamplau o ddodi heibio yr hen ddyn yr enwir, " gan fwrw ymaith gelwydd," a thyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a liid, a dig, a llefain, gyda phob drygioni. Ac felly yn y Llythyr at y Colossiaid iii. 10—12. Y mac gwisgo y dyn newydd yn golygu gwisgo am danynt ymysgaroedd trugareddau. Ac yno, yn adnod yr wythíed, y mae diosg yr hen ddyn yn golygu, <! rhoddi ymaith yr holl bethau hyn,—digter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'r genau." Y mae y geiriau, yr hen ddyn, yn dangos pechod yn ei wreiddyn a'i hanfod, fel y dyn ei hunan, neu yn hytrach fel hunan y dyn. Yr hen ddyn yw y dyn ei hun yn ei hunanoldeb : wedi ei wisgo âg eí ei hun. Defnyddir gwisg fel diogelwch, ac fcl hardd- wch; felly hefyd y mae dyn yn cylrif ei hunan fel ei ddiogelwch a'i harddwch. Yn ìle aberthu ei himan i Dduw, y mae yn aberthu pobpeth dwyfol iddo ei hun. Iíunan yn lle Duw yw hanfod pechod. Felly yma, fe elwir ar y person i ddodi ei hunan heibio, yr hyn sydd yn cynwys mai cyflwr dyn wrth natur yw cyflwr un wedi ymwisgo âg ef ei hun. Y mae hunan yn cynyddu ac yn cryfhau fel y mae y person yn cynyddu ac yn cryfhau. Yn.y