Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sladmergdl Gyf X. IONAWB, 1891 Bhif 109. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. Gan y diweddar Barch. D. Charles Davies, M.A., Trefecca. RHiF CV. "Eithr chwychwi, nid felly y dysgasoch Grist; os bu i chwi ei glywed Ef, ac os dysgwyd chwi ynddo, megis y mae y gwirionedd yn yr Iesu." Eph. iv. 20,21. Amcan y geiriau hyn yw dangos y berthynas sydd rhwng yr Arglwydd lesu a sancteiddrwydd ymarferol. Fe welir hyny yn nghysylltiad y geiriau â'r aduodau blaenorol. " Eithr chwychwi nid felly, yn ofer eich meddwl, yn dywyll eich deall, yn galed eich calon, yn aflan eich ymarweddiad fel y cenedloedd eraill, ' y dysg- asoch Grist.'" Gwelir hyn eto yn eu cysylltiad â'r adnodau dilynol, " Os Ef a glywsoch, ac os ynddo Ef y'ch addysgwyd, i ddodi heibio o ran yr ymarweddiad cyntaf yr hen ddyn," &c. Y mae yr adnodau hyn yn dangos tair perthynasrhwng yr Arglwydd Iesu â sancteiddrwydd. " I. Y MAE YR ARGLWYDD IESU YN DYSGU DYNION I FYW YN SANCTAIDD. ",?s„Ef a glywsooh, ac os ynddo Ef y'ch addysgwyd i ddodi heibio," &c. Yr hwn a glywsant ac yr addysgwyd hwynt ynddo yw Cnst. Nid yw hyn yn cynwys eu bod yn Ephesus wedi clywed u uSt yn llefaru' ond fe ddefnyddir y gair clywed yn y Beibl am beth uwch na hyny. Megis y dywedir am y defaid eraill yn loan x. 16, " A'm llais i a wrandawant," pryd nas gallant glywed ei leferydd naturiol â'u clustiau. Y mae y pwys yma ar y geiriau, " Os Ef a glywsoch," erdangos mai un nod neillduol ar y Messiah ydyw ei fod yn dysgu dynion i fyw yn sanctaidd, ac y byddai y diffyg o hyny, yn brawf digonol mai nid y Messiah a fÿddai. " Os Ef a glywsoch," fe'ch dysgodd i fyw yn sanctaidd. Ac nid perthyn yn neillduol ì droedigaeth Saul o Tarsus yr oedd clywed Crist yn