Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jîatergdi Cyf. VI. RHAGFYR, 1890. Rhif 72. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN T *ARCH. D. CHARLES DAYIE8, M.A., TRBFECCA. RHIF LXXII. "Fel y galloch, wedi eieh gwreiddio *'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw y lled, a*r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder,"—Eph. iii. 18. Y MAE y geiriau "fel y galloch, wedi eich gwreiddio," &c, yn tybied fod yr apostol wedi gweddio am ryw fendithion yn flaen- orol sydd yn gysylltiedig â'r bendithion a enwir yn yr adnod hon. Yn yr unfed adnod ar bymtheg fe weddiodd am i'r Ephesiaid crediniol gael eu cadarnhau. Yn yr adnod hon y mae yn dangos y cadernid y gweddiodd o'r blaen am dano mewn dwy gymhariaeth. Un ydy w, cadernid pren wedi ei wreiddio; y lla.ll, cadernid ty wedi ei seilio. Yn lle dywedyd wedi eich cadarnhau, rhydd arall- eiriad o'r gair, gan ddy wedyd, " wedi eich gwreiddio a'ch seilio." Ac y mae y geiriau " mewû cariad " yma yn nodi gydag arbenig- rwydd gynẃys ac ystyr yr ymadrodd, "}rn y dyn oddimewn." Gan na enwir yma un gwrthddrych i'r cariad, y mae y gair i'w gymeryd mewn ystyr eang, fel yn dynodi ansawdd gyffredin y galon; ac felly yn cynwys cariad at Dduw a chariad at ddynion, cariad at y brodyr a chariad at elynion, cariad o dosturi at drueni a chariad o hyí'rydwch mewn purdeb, cariad at ein gwlad a'n cenedl a chariad at y byd,—cariad yn ei wedd oreu a mwyaf pur a nefolaidd, fel y mae yn Nuw ei hun. Y mae felly i'w wahan- iaethu oddíwrth yr hyn sydd yn groes iddo, megis casineb, gelyniaeth, creulondeb; ac oddiwrth yr hyn sydd debyg iddo, megis meddalwch tymer. Y mae y geiriau, " wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad," yn gysylltiedig a'r adnod flaenorol )ti dangos pa fodd y mae i bechadur gael ei gadarnhau mewn cariad, fel ansawdd gyfFredin ei galon. Y drefn ddwyfol ydyw, trwy fod 12