Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. VI. HYDREF, 1890. Rhif 70. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHI F LXX. " Ar roddi o hono ef i chwi yn ol cyfoeth ei o^oniant, fod wedi yragadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddimewn." Eph. iii. 16. Y fendith y mae yr apostol yn gweddio ar i Dduw ei rhoddi i'r cen- hedloedd crediniol yn Ephesus yn yr adnod hon yw, " cadarnhâd yn y dyn oddimewn." Y mae y dymuniad yn tybied fod perygl iddynt, er eu bod yn dduwiol o ran egwyddor, oddiar wendid barn a theimlad i wyro oddiar lwybr eu dyledswydd. Y mae y gwendid hwn ag yr oedd duwiol- ion Ephesus mewn perygl oddiwrtho, yn wendid ag y mae pawb tra ar y ddaear yn agored iddo. Y mae yr achos o hono oddifewn yn y galon, yn yr ewyllys. Ac er fod gwahaniaeth rhwng dynion a'u gilydd o ran cyf- ansoddiad naturiol; er fod rhai o natur yn feddal, yn anwadal, ac yn hawdd eu troi; ac eraill o natur yn benderfynol, ac yn gweithio allan eu cynlluniau yn egniol yn ngwyneb rhwystrau fyrdd; eto fel y maent yn bechaduriaid, y maent yn wan fel eu gilydd i wneuthur yr hyn sydd dda. Y mae y gwendid yn bechadurus oherwydd mai gwendid yr ewyllys ydyw. Am hyny y mae "y dyn oddimewn " yn yr adnod hon, sydd i'w gadarn- hau, yn cynwys yr ewyllys. " A mi yn ewyllysio gwneuthur da, fod drwg yn bresenol gyda mi. Canys ymhyfrydu yr wyf yn nghyfraith Duw yn ol y dyn oddimewn." Yr un yma yw y dyn oddimewn a'r ewyllys. Y mae y gwendid yn cael ei brofì yn ngwyneb amgylchiadau sydd yn cyfarfod â phob dyn, yn y rhai y mae dyledswydd yn cyfeirio un ffordd, a rhyw gysur neu enill tymhorol yn cyfeirio ffordd arall. Ac y mae llawer dyn ag oedd yn barnu ei fod ef yn ddigon cryf i wneuthur yr hyn oedd iawn bob amser wedi cyfarfod âg amgylchiadau a brofodd iddo ei fod yn llawer gwanach nag y meddyliodd erioed ei fod. Ac fe all y 10