Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÿaterml& Cyf. VI. AWST, 1890. Khif 63. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., TREFECCA. RHIF L X V 111 . *' Oherwydd paliam yr wyf yn dymuno na lwfrbaoch oblegid fy mlinderau' i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi." Eph. iii. 13. TTx o nodweddau cymeriad yr Apostol Paul oedd ei fod yn credu mor gryf nes dioddef yn hytracli na gwadu yr hyn a gredai oedd wirionedd. Fe geir llawer i broffesu yn uchel, ac i ddadleu yn selog dros bethau nad ydynt yn barod i ddioddef y blinder lleiaf er eu mwyn. Ac y mae Uawer yn fwy parod i weithio nag ydynt i ddioddef. Y mae gallu dioddef poenau corff yn amyneddgar yn gofyn gwroldeb ; dioddef briwio y teini- lad heb gynhyrfiadau dialgar yn brawf o wroldeb ; ac y mae dioddef yn hytracli nag abertbu gwirionedd yn wroldeb hefyd. Nid yr un pethau. yw y blinderau mwyaf i bawb. Y mae rhai a'u calon ar enill cyfoeth fet mai'r blinder mwyaf a allent ei ddioddef fyddai colli eu heiddo, neu fetliu enill cymaint ag a ddymunent. Y prawf uchaf o egwyddor a gwroldeb yn y rhai hyn yw, pa faint y maent yn barod i ddioddef yn eu liamgylchiadau yn hytrach na gwneuthur yr hyn nad yw yn iawn. Y mae rhai yn hoffi cymdeithas eraill, yn enwedig rhai doniol, a difyrus, fel mai y bliuder mwyaf iddynt fyddai colli cymdeithas rhai o'u cyfeillion. Y prawf uchaf o egwyddor a gwroldeb y rhai hyn ydyw, a aberthant hwy gyfeillach y dyn y maent yn ei hcfri oreu, yn hytrach na chael eu har- wain ganddo i wneuthur yr hyn y mae eu cydwybod yn ei gondemnio. Y mae rhai yn hoffi cymeradwyaeth y rhai y maent yn y cysylltiad agosáf â hwynt. Y prawf uchaf ar eu hegwyddor hwy fyddai dioddef gwawd.a dirmyg o bob math yn hytracli na pheidio gwneutLur yr hya a gredant sydd yn ddyledswydd arnynt. Yn y dyddiau hyn nid oes erlidL