Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JWmermtó. Cyf. VI. GORPHENAF, 1890. Rhif 67. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN T PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXVII. " Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef," Eph. iii. 12. Y m.ae yr adnod hon yn dechreu brawddeg sydd yn cael ei dechreu yn yr wythfed adnod gyda'r geiriau, " I mi," &c. Yn nghanol y frawddeg y mae y gwahaniaeth sydd yn cael ei osod allan gan y geiriau " i mi" ac "i ni." Pan ddywedir " i mi," enwir breintiau a gafodd Paul yn wahanol i'w frodyr. " I mi," gyda phwyslais, " y rhoddwyd y gras hwn." Pan y dywed, " i ni," enwir bendithion cyffredinol iddo ef a'i frodyr crediniol. " Yn yr hwn y mae i ni hyfdra." Ni ddywed yma, " i mi," am y buasai hyny yn cau alian ei frodyr crediniol, yn Iuddewon a chenhedloedd, ac ni ddywed " i chwi," am y buasai felly yn ei gau ei hunan allan. Ac ni ddywed " i mi a chwi," am y buasai hyny yn dangos fod rhyw wahan- iaeth rhyngddo ef a hwynt; fel yr oedd y geiriau, " Fy Nhad i a'ch Tad chwithau," yn dangos fod rhyw wahaniaeth rhwng ei berthynas ef â Duw, a'u perthynas hwy âg ef. Ond y mae y gair "i ni" yn dangos nad oes dim gwabaniaeth yn liyn, pa faint bynag a allai fod mewn pethau eraill. Wrth droi oddiwrth y bendithion neillduol iddo ef, at y bendithioa cyffredinol oedd yn perthyn i'r holl gredinwyr, yr oedd yr Apostol ya dyrchafu at fendithion uwch, ac nid yn disgyn at fendithion is, oherwydd y bendithion uchaf oedd gan yr Apostol mwyaf oedd y rhai yr oedd ef a'r duwiolion lleiaf yn eu cydfeddu. Y mae hyn yn wir am ddyn fel creadur Nid peth mwyaf unrhyw ddyn ydyw ei fod yn gyfoethog, yn ddysgedigt yn dalentog, neu yn perchen athryiith; ond ei fod yn gyfrifol, ac y mae