Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMnwgdi Cyf. VI. MAI, 1890. Rhif 65. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXV. *'Yn ol yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yn Nghrist Iesu ein Harglwydd."—Eph. iii. 11. Y MAE y geiriau " yn ol'' yn cysylltu yr adnod hon â'r adnodau blaenorol. Y mae y cysylltiad yn dangos fod galwad y cenhedl- oedd at Grist, a'u ffurfiad trwy Grist yn yr eglwys, a'r hysbysrwydd 0 ddoethineb Duw trwy yr eglwys wedi ei chyíansoddi felly, yn amgylchiadau a gymerasant le, nid yn ddamweiniol nac yn fym- pwyol, ond yn fwriadol. Ac y mae mor wir y gellid ychwanegu ar 01 pob gwaith a wnaeth Duw erioed, mewn creadigaeth, rhaglun- iaeth, ac iachawdwriaeth, y geiriau " yn ol yr arfaeth dragwyddol." Fe ddarlunir y bwriad yn ol yr hwn y mae yn gwneuthur pob peth yma yn fwriad tragwyddol. Y mae yn dragwyddol am nad yw i'w olrhain, o ran ei achos, i ddim sydd mewn amser; ac nas gellir ei gyfnewid gan amgylchiadau. Y mae nid yn unig cyn amser, ac yn hwy nag amscr, ond uwchlaw amser i'w achosi na'i gyfnewid. Fe all beidio a bod yn fwriad, nid trwy ei fod yn marw, ond trwy ei fod yn cael bywyd newydd mewn gweithred. Er ei fod, íel bwriad, yn peidio a bod pan gyflawnir ef, nid yw, oherwydd hyny, yn peidio a bod yn dragwyddol; canys nid ei wendid, ond ei nerth ; nid ci ddiÖyg, ond ei berfTeithrwydd, sydd yn peri ei der- fyniad mewn gwreithred. Y mae pob peth tragwyddol arall, Duw tragwyddol, bywyd tragwyddol, deddf dragwyddol, heb ddiwedd. Ond y mae bwriad yn wahanol i bobpeth tragwyddol arall,—y mae iddo ddiwedd mewn gweithred, ond y mae yn dragwyddol, er hyny. Y mae gwaith achubol yn dragwyddol, er fod dechreu iddo.; ond y mae y gwaith yn dechreu lle y mae y bwriad yn gorphen ac y mae y ddau yn un, ac felly o dragwyddoldeb hyd dragwyddol-