Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

îlaàntrgdi Cyf. VI. EBRILL, 1890. Rhif 6*. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXIV. " Fel y byddai yr awrhon yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy yr eglwys, fawr mawr ddoethineb Duw."—Eph. iii. 10. Amcan yr apostol yn y frawddeg hon ydyw dangos mawredd y gwaith a roddwyd iddo i'w wneuthur fel gweinidog yr efengyl, a thrwy hyny mawredd y gras a'i gosododd yn y weinidogaeth. Yr oedd y gwaith a gafodd yn driphlyg. (1.) Efengylu ymhlith y cenhedloedd ; (2.) Egluro ibawb beth yw cymdèithas y dirgelwch, ac (3.) Hysbysu doethineb Duw i'r angylion. Y mae y tri yn cael eu henwi mewn trefn, ond nid y drefn hono yn eu pwysfawr- edd, oherwydd, ar a wyddoni ni, fe all hysbysu doethineb Duw i'r angel fod o gymaint pwys i'r angel ag ydyw efengylu an- chwiliadwry olud Crist i bechadur. Ü hyn yr ydym yn sicr, fod bywyd tragwyddol yr angel o gymaint gwerth iddo ef ag ydyw bywyd tragwyddol pechadur o bwys iddo yntau. Ac am hyny ei fod o gymaint pwrys i'r angel gael ei gadw rhag syrthio. Y mae lle cryf i gredu, ar sail rhai ymadroddion Beiblaidd, fod yr Iawn hwnw sydd yn newid cyflwr pechadur gerbron gorsedd Duw yn diogelu yr angylion yn y cyflwr sanctaidd a dedwydd y crewyd hwynt. Gan y gwyddom mai trwy efengylu golud Crist y mae Duw yn dwyn pechaduriaid i ymorphwys ar yr Iawn, a'u diogelu trwyddo, fe ddichon fod trefn Duw i gadw yr angylion yn y nef- oêdd yn cyfateb i'w drefn o ddychwelyd pechaduriaid ar y ddaear, a bod hysbysu ei ddoethineb trwy yr egîwys i'r angylion yn rhaa o'i drefn i'w sicrhau mewn gogoniant. Os felly y mae, y mae cymaint o bwysfawredd mewn hysbysu doethineb Duw i'r angjdioa ag sydd mewn cyhoeddi yr efengyl i bechaduriaid. Y mae y tri jn cael eu henwi, nid yn nhrefn eu pwysigrwydd, ond yn ol maint