Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ÿMmmââ. Cyf. VI. MAWRTH, 1890. Rhif 63. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAVIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXIII. " Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist."— Eph. iii. 9. Y dirgelwoh y cyfeirir ato yn yr adnod hon yw y gwirionedd y cyfeirir ato ya y chweched adnod: yr hwn sydd yn cynwys fod pawb'sydd yn Nghrist yn mwyuhau yr un bendithion ysbrydol, a'r. un breintiau allanol a'u gilydd. Nid yw yr efengyl yn dileu unrhyw wahaniaeth sydd rhwng dynion yn wladol ac yn gymdeith- asol; ond y mae yn hytrach trwy ei gorchymynion, i feistriaid a gweision, i frenhinoedd a deiliaid, yn arwyddo parhad y fath wahaniaeth rhyngddynt. Er cydnabod fod hyn yn bod, y mae yn dangos mai nid hwn, ond yr un sydd yn rhanu y byd yn dduwiol ac annuwiol, yw y gwahaniaeth mwyaf; ac mai yr Arglwydd Iesu yw y llinell sydd yn gwneuthur y gwahaniaeth yma. Yn amser y diliw, y byw a'r marw oedd yn y dosbarthiad mawr; yr arch, oedd yn diogel yu byw, a wnaeth y gwahaniaeth rhyngddyut. Y dydd olaf, duwiol ac annuwiol fydd y ddau ddosbarth fydd yu cynwys pawb i fewn. Mawredd yr Arglwydd Iesu fel Barnwr fydd y pell- der rhyngddynt. Felly, y mae yr efengyl yn dangos fod duwiol ac annuwiol yn cynwys pawb, ac mai y llinell sydd yn eu gwahan- iaethu oddiwrth eu gilydd yw Crist, fel mai bod yn dduwiol yw bod ynddo Ef, a bod yn annuwiol yw bod hebddo Ef. Hwn oedd y gwirionedd mawr a ystyrid yn hanfod yr efengyl, ac mor an- hawdd oedd gan y genedl Iuddewig ei gredu ! Egwyddor yr hen ddosbarthiad Iuddewig o'r byd oedd yn ol meddiant o íreintiau allanol crefydd : a chan fod yr holl freintiau, " ymadroddion Duw," gan y genedl Iuddewig, ctînedl Israel oedd y llinell a ranai y byd yn ol breintiau allanol crefydd. Y mae yr Arglwydd Iesu yu cyd-