Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^o Jlatergdi Cyf. VI. CHWEFROR, 1890. Rhif 62. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXII. " I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist." Eph. iii. 8. Y mae yr holl adnodau o'r ail i'r ddeuddegfed yn esboniad ar yr aduod gyntaf. Yr hyn sydd i'w esbonio yn hono yw perthynas Paul, yr Arglwydd Iesu, a'r cenhedloedd â'u gilydd. Fel esboniad, y mae yr apostol yn hysbysu mai gras a ffurtíodd y berthynas. I ddangos hyn, mae yn enwi gras dair gwaifch, yn yr ail, y seifchfed, a'r wyfchfed adnod. Yn yr ail, y mae yn dweyd mai gras a gys- yllfcodd Paul â'r cenhedloedd, heb air amGrist: yn y seifchfed, dywed mai gras a gysylltodd Paul â Christ, heb air am y cen- hedloedd; ac yn yr wythfed, y mae yn enwi y tri, ac yn hysbysu mai gras a'u cysylltodd â'u gilydd. A'r hyn y mae yr adnod yn ei ddangos yw, mawredd gras Duw tuag at Paul yn ei berthynas â'r cenhedloedd, ac yn ei berthynas â Christ. Y mae yn dangos mawredd gras Duw yn mawredd y gwaith a gafodd, a mawredd y gwaith yn mawredd y genadwri. Wrth ras y meddylir ffafr i'r annheilwng. Y mae graddau graslonrwydd yn dibynu yn 1. Ar raddau annheilyngdod y derbynydd. Y mae graddau mewn annheilyngdod. Y mae angel yn annheilwng o ddaioni, ond y mae dyn yn haeddu drwg. Ac ymhlifch dynion y mae rhai yn waeth pechaduriaid na'u gilydd. Nid yw fod pawb yn yr un ystad o annuwioldeb yn wreiddiol yn peri nad oes gwahaniaeth rhyngddynt wedi tyfu i oed, a bod rhai yn fwy pechaduriaid nag eraill. Pe bai pawb y foment yma yn meddu ar yr un faint o olud, ni pharai hyny na byddai gwahaniaeth rhyngddynt erbyn nos yfory. Felly, er fod pawb wrth natur mor annuwiol a'u gilydd, nid yw hyny yn peri nad oes gwahaniaeth mawr yn cael ei wneuthur rhyngddynt mewn amser; ac erbyn