Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^o ^MmtrUL Cyf. VI. IONAWR, 1890. Rhif 61. / Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LXI. " I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ol rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ol grymus weithrediad ei alìu ef."—Eph. iii. 7. Y GWIRIONEDD sydd yn gorwedd yii yr adnod hon yw y cysylltiad sydd rhwng defnyddioldeb cyhoeddus â duwioldeb personol. Y mae defnyddioldeb yr apostol yn cael ei ddarlunio yn y rhan gyntaf o'r adnod. " I'r hon (yr efengyl) y'm galwyd i yn weini- dog." Ni ddefnyddir y gair gweinidog yn gyffredin yn y Beibl mewn ystyr swyddogol, fel y defnyddir ef yn ein plith ni. Yr enw swyddogol Beiblaidd yw esgob. Ystyr y gair gweinidog yn y Beibl, ydyw un sydd yn cyflawni gwaith—y gwaith o wasanaethu i arall, pa un a fyddo mewn swydd ai ni fyddo. Yr eithriad yw, pan y defnyddir ef am y rhai sydd wedi eu dewis gan eraill er gwasanaethu byrddau—sef diacon. Yn yr ystyr o wasanaethu fe ddywedir fod gan Satan weinidog, a bod Barnabas a Saul wedi cyflawni eu gweinidogaeth. Y mae gwneuthur yn weinidog yma yn cynwys yn unig nad oedd Paul yn gwneuthur y gwaith yma o'r dechreuad, a'i fod wedi myned i'r gwaith. Natur neillduol y gwaith oedd gweinyddu gwasanaeth fel gwas i'r efengyl,—yr efengyl oedd ei feistr. Ac ni chafodd yr efengyl was ffyddlonach erioed. Fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae Uygaid llawforwyn ar law ei meistres, felly yr oedd llygaid Paul ar law yr efengyl. Gallasai ei hanerch yn ngeiriau Dafydd wrth yr Arglwydd :—" O Efengyl! dy was di ydwyf fi, dy was di ydwyf fi." Ac er na allasai ddweyd " mab dy wasanaethwraig," gallasai ddweyd gyda phwyslais, " datodaist fy rhwymau." Ar ol darlunio ei waith fel gwas i'r efengyl, y mae yn hysbysu pa fodd yr aeth i'r sefyllfa, " Yn ol rhodd," nid yn ol unrhyw hawl