Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ifotímergdd. Cyf. V. RHAGFYR, 1889. Rhif 60. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LX. " Y byddai y cenhedloedd yn gydetifeddion, ac yn gydgorff, ac yn gydgyf- ranogion o'i addewid ef yn Ngbrist, trwy yr efengyl " Eph. iii. 6. Y mae y geiriau hyn yn cynwys y pwnc mawr ag yr oedd yr apostol yn dadleu drosto yn erbyn rhai o'r Iuddewon Cristionogol. Y ffurf gyntaf ar y ddadl oedd yn mherthynas i'r pethau y dylesid eu gosod yn delerau aelodaet'ü eglwysig i'r ymgeiswyr o blith y cenhedloedd. Yr oedd y ddwy blaid yn cytuno yn hyn, na ddylesid gosod yn delerau aelodaeth, ond yr hyn oedd angenrheidiol er iachawdwriaeth. Y cwestiwn nesaf i'w ystyried oedd, — Pa beth oedd yn angenrheidiol er iachawdwriaeth ì Ateb yr apostol oedd, " Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi " (Act xvi. 31). Ateb y gwrthwynebwyr oedd,—" Onid enwaedir chwi yn ol defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig" (Act. xv. 1). Nid oedd y blaid olaf hon yn gwadu fod credu yn Nghrist yn angenrheidiol ond dalient fod enwaedu yn angenrheidiol hefyd. Y cwestiwn gan hyny i'w benderfynu oedd,—' A oedd ffydd yn ddigonol er iachawdwriaeth ì Addefent oll ei bod yn angenrheidiol. Rhesymau yr apostol dros ddal ei bod yn ddigonol ydyw, fod ffydd yn ddigonol i uno pechadur â Christ, a bod undeb â Christ yn ddigonol i ddwyn dyn i fwynhad o holl fendithion yr efengyl; ac am hyny y dylai prawf boddhaol fod pechadur wedi credu, trwy ei ymgais i fyw yn sanctaidd, fod yn ddigon er iddo gael aelodaeth eglwysig, a mwynhau holl ragorfreintiau allanol yr efengyl. Gwirionedd yr adnod hon, yr hon sydd yn cynwys pwnc y ddadl ydyw, fod jpawb yn gydradd yn Nghrist mewn pethau bywyd tragwyddoh Y mae hanfodion bywyd yn cael eu cynwys, neu eu tybied, yn y geiriau, *' Cydetifeddion, cydgorff, ac yn gydgyfranogion o'i addewid ef yn