Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mnwgdd Cyf. V. TACHWEDD, 1889. Rhif 59. Y LLYTHYR AT YB, EPHESIAID. GAN T PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LIX. " Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i fsibion dynion, fel y mae yr awr hon wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy ei Ysbryd." —Eph. iii. 5. Y MAE y pwnc y cyfeirir ato yraa yn cael ei eawi yn yr adnod nesaf Yn yr adnod hon y mae yr apostol yn hysbysu fod y pwnc hwn yn eglurach trwy ddatguddiad yr Ysbryd dan yr oruchwyliaeth hon, nag yr oedd dan yr hen. Y mae yr " oesoedd eraill " yma yn cyn- wys yr holl oesoedd o ddyddiau Adda hyd dywalltiad yr Ysbryd Glân. Y mae " meibion dynion " yma yn cynwys pawb, nid y proff- wydi ysbrydoledig, ond holl hiliogaeth Adda yn ddiwahaniaeth oedd yn byw yn yr oesoedd hyny. Ac y mae " egluro " yn cynwys pob dull a gymerodd Duw i hysbysu ei feddwl, pa un byDag ai trwy weithrediad rheswm yn ngoleuni natur, ai trwy weithrediad goruwchnaturiol yr Ysbryd yn ngoleuni Iuddewiaeth ; ond nid eglurwyd y gwirionedd am gydraddoldeb pawb yn Nghrist i neb trwy yr holl oesoedd mewn unrhyw ddull, fel y mae yn awr mewn ychydig amser wedi ei ddatguddio i ychydig ddynion trwy yr Ysbryd. Fe ellir cymhwyso gwirionedd yr adnod at bob un o bynciau yr efengyl, gyda yr un priodoldeb ag at dderbyniad y cenhedloedd i'r eglwys. Nid yw yr adnod yn cynwys fod gwirionedd wedi ei ddatguddio i'r apostol na ddatguddiwyd o gwbl o'r blaen, ond nas datguddiwyd gyda yr un eglurdeb. Dywed Paul yn Act. xxvi. 22, 23 yn ben- dant nad oedd ganddo " ddim amgen" i'w lefaru, nag a lefarwyd o'r blacn, ond ni lefarwyd y peth o'r blaen gyda yr un eglurdeb.