Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IWadmergdi Cyf. V. MEDI, 1889. Khif 57. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LVII. " Wai trwy ddatguddiad yr hysbysodd Efe i rai y dirgelwch (megis yr ysgrif- enais o'r blaen ar ychydig eiriau)—Eph. iii. 3. Y mae datguddiad yn cynwys egluro, amlygu—fod rhyw len oedd rhwng y meddwl â rhyw wrthddrych neu wirionedd, yn cael ei symud. Fod yr hyn oedd yn ddirgel o'r blaen yn awr yn cael ei wneyd yn amlwg i'r meddwl. Ond y mae iddo ystyr mwy pendant na hyn yn y Beibl. Yn y llythyr at y Galatiaid i. 12, y mae yr apostol yn ei gyferbynu â thraddodiad dynol, ac âg addysg ddynol: " Canys md gan ddyn y derbyniais hi, nac y'm dysgwyd ; eithr trwy ddatguddiad Iesu Grist." Yn aml, fe ddatguddir llawer o wirionedd i'r meddwl trwy addysg ; ond y mae Paul yma yn gosod y datguddiad a gafodd ef yn gyferbyniol i addysg, ac yn amlwg yn ei ystyried yn tra rhagori. Yn 1 Cor. ii. 9, 10, fç'i cyfe'-bynir i'r wybodaeth a gyrhaeddir trwy synwyrau y corff, ac a gyrhaeddir hefyd trwy reswrm neu ddychymyg y meddwl. " Ni welodd llygad, 90 ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn y pethau a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant Ef. Eithr Duw a'u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd." Y mae yr aduodau hyn yn cau allan holl gyfryngau cyffrpdin gwybodaeth, ac yn cyfyngu y gair datguddio yn y Beibl i •weitlneuiad digyfrwng Ysbryd Duw ar ysbryd dyn. Yn hyn y mae y datguddiad a gafodd yr apostol i'w wahaniaethu oddiwrth weithrediadau cyffredin yr Ysbryd ar galonan, yn y rhai y mae yn defnyddio moddion neu rTvfr*'ngau. Y gwirionedd y cyfeirir yn neillduol ato yma yw, yr hyn sydd yn adnod y chweched, sef bod pawb yn Nghrist yn gydradd o van bendithion ysbrydol yr efengyl. Fe gafodd Paul hwn, nid yn ol, ond yn groís i bob traddndiad ac cddysg oddiwTth ddynion ; yn groes i bob peth "• «r'í^fu tcv,rv synhwyrau ei gorff, nen trwy ei reswm a'i ddychymj^