Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JWmerÄ Cyf. V. AWST, 1889. Rhif 56. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LVI. " Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i rai tuag atoch chwi." Èph. iii. 2. Y mae yr adnodau o'r testyn i'r drydedd ar ddeg i'w hystyried fel pe buasent rhwng cromfachau; ac yn cael eu hamcanu mewn ffordd o eglurhad ar yr adnod gyntaf. Y mae yr adnod hono yn cynwys fod rhyw berthynas rhwng Paul ei hun, a rhwng yr Arglwydd Iesu hefyd, â'r cenhedloedd. Yn yr adnodau rhwng- cromfachau eglurir natur y berthynas hono. Y berthynas hono y w, " y byddai y cenhedloedd yn gydetifeddion, ac yn gydgorff, ac yn gydgyfranogion o'i addewid ef yn Nghrist, trwy yr efengyl; i'r hon y'm gwnaed i yn weinidog," &c. " Os clywsoch," neu " gan eich bod wedi clywed arn oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a rodd- wyd i mi tuag atoch chwi." Y mae Iesu Grist (Luc xii. 42) yn egluro y gaîr " goruchwyliwr," gan ei ddangos yn golygu un wedi derbyn gwaith mewu ffordd o ymddiried yn y fath fodd ag y mae yn gyfrifol am dano. Felly, ystyr y gair goruchwyliaeth yma ydyw ymddiriedaeth—stewardiaeth—wedi ci derbyn oddiwrth Dduw tuag at y cenhedloedd. Fe sonir am ddwy oruchwyliaeth, yr hen a'r newydd ; yr un amcan mawr sydd i'r ddwy, sef bendithio y byd. Trefn Duw i fendithio y byd yw gosod y fendith mewn trust er lles y byd. Dyma oedd yr amcan yn yr hen, fel y gwelir yn yr addewid i Abraham ;—" Yn dy had di y bendithir yr holl genhedloedd:" " Ddarfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw." Er mai yr un yw yr amcan, eto nid yr un yw yr egwyddor yn yr hen a'r newydd. Yr oedd yr hen yn ol gwaedoliaeth, ond y newydd yn ol ffydd bersonol. Yr oedd yr hen yn ymddiriedaeth í fendithio y byd yn ol gwaedoliaeth, er iddi ddechreu yn ol ffydd bersonol yn Abraham, tad y genedl. Nid yw hyn yn tybied nad oedd dynion duwiol tuallan i'r genedl Iuddewig, fel y cyfaddefodd