Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMnwgdi Cyf. V. GORPHENAF, 1889. Rhif 55. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN T PARCH. D. CHARLES DATIES, M.A., TREFECCA. RHIF LV. " Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi y Cenhedloedd.* Eph. iii. 1. Y mae y geiriau hyn yn dechreu brawddeg—brawddeg na orphenir yn yr adnod nesaf. Yr un ymadrodd ydyw, " Er mwyn hyn," yn neehreu hon, ac " Oherwydd hyn," yn y bedwaredd adnod ar ddeg, yr hon a gyfieithir yr un fath yn y Beibl Saesneg yn y ddau le, " For this cause.'* Am hyny ni a gymerwn " Oherwydd hyn," fel y cyfieithiad priodol yn neclireu hon, yn hytrach nag, " Er mwyn hyn." Y mae o'r ail adnod i'r drydedd ar ddeg i'w hystyried rhwng cromfachau, a'r bedwaredd ar ddeg yn dilyn i'w diwedd y frawddeg a ddechreuir yn yr adnod hon, a gweddi Paul dros yr Ephesiaid sydd yn rhedeg i ddiwedd y benod. "Oherwydd hyn, myfì Paul, .........wyf yn plygu fy ngliniau ......... gan weddio drosoch," yw rhediad y frawddeg. Y mae " Oherwydd hyn," yn cyfeirio at y pethau olaf o enwir yn y benod fiaenorol. Yno y mae yr apostol yn hysbysu fod y cenhedloedd— yr oedd yn ysgrifenu atynt—wedi dyfod i gymod â Duw, yn ddeiliaid a deyrnas Dduw, yn blant yn nheulu Duw, ac wedi eu dychwelyd ato trwy ras. " Oherwydd hyn," gan eu bod wedi eu troi, y mae Paul yn gweddio ar iddynt gael eu hadnewyddu, eu sefydlu, a'u cryfhau; ar sail eu bod yn môddu anian dduwiol y mae yn gweddio ar iddynt gael bod yn gryf mewn crefydd—yn ddisglaer mewn sancteiddrwydd. Y mae yn rhoddi pwys ar y âaith ei fod yn garcharor y pryd hwn, yn garcharor yr Iesu oedd yn ei bregethu, dros y cenhedloedd i'r rhai yr oedd yn ei bregethu. "Wrth ddweyd ei fod yn garcharor dros y cenhedloedd, nid yw yn meddwl " yn eu lle," ond oherwydd ei benderfyniad i bregethu yr efengyl yn ei symledd iddynt. Yr Iuddewon a fu yn offerynau i'w gymeryd i'r