Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. V. MEHEFIN, 1889. Rhif 54. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LIV. "Yn tvr hwn y'ch cyd-adeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy yr Ysbryd."—Eph. II. 22. Amcan yr apostol yn y benod hon a'r nesaf yw dangos fod y cenhedloedd, dan yr Oruchwyliaeth hon, yn gydradd â'r Iuddewon, nid yn unig yn mreintiau allanol crefydd, ond hefyd, trwy iawn ddefnyddiad o'r breintiau hyny, yn mendithion ysbrydol crefydd. Y mae y sefyllfa y codir hwynt iddi yn cael ei darlunio yma dan dair cymhariaeth. (1.) Fel gwladwyr mewn teyrnas ar yr hon y mae Duw yn frenin; (2.) Fel plant mewn teulu, yn yr hwn y mae Duw yn dad; ac (3.) Fel y deml yn Jerusalem, yn yr hon yr oedd Duw yn ogoniant. Y mae y gymhariaeth olaf yn dangos yn darawiadol iawn y gwahaniaeth yn eu sefyllfa dan y ddwy Oruch- wyliaeth. Dan yr hen, yr oeddynt yn ddieithriaid oddiwrth wlad- wriaeth Israel; mewn sefyllfa o bellder oddiwrth y deml a'i hordinhadau ; ond dan hon, nid yn unig y maent yn dyfod yn agos at y deml, o ran mwynhad o freintiau allanol, ond yn cael eu gwneuthur yn rhan o deml annhraethol ogoneddusach na'r un a fu yn Israel, yn y meddiant o fendithion yr efengyl. Md cael.eu dwyn at y deml y maent, ond cael eu gwneyd yn gyfran o'r deml eu hunain. Ac yn y gymhariaeth o deml, dangosir yn eglur le y tri Pherson dwyfol yn iachawdwriaeth pechadur. Y Tad yw yr adeiladydd, y Mab yw y pen conglfaen, a'r Ysbryd yw y gogoniant. Gyda golwg ar y Mab, dyna fydd yr Eglwys wedi ei pherífeithio^ " teml sanctaidd yn yr Arglwydd," fel teml o geryg mewn undeb- â'r sylfaen ; yn ei pherthynas â'r Ysbryd, fe íydd yn breswylfod i Dduw,—" preswylfod i Dduw yn yr Ysbryd," sef yn mherson yr Ysbryd Glân. Fel yr oedd teml Solomon yn breswylfod i Dduw mewn arwydd, felly yr oedd Person Crist yn breswylfod i Dduw mewn gwirionedd. Preswylfod arwydd o ogoniant oedd teml Solomon ar y goreu. " Solomon a adeiladodd.dŷ iddo ef . . : ' ► ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau ;" arwydd o hono-