Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

VD Mntëmdi Cyf. V. MAI, 1889. RHIF 50T^S [f wf $ Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN T PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., TREFECCA. RHIF LIII. " Yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymwys gyd-gysylltu, yn cynyddu yn deml sanctaidd yn yr Arglwydd."—Eph. ii. 21. Y mae geiriau olaf yr adnod, " teml sanctaidd yn yr Arglwydd," yrt ddarluniad o'r hyn ag yr oedd Duw er tragwyddoldeb wedi bwriadu a. phenderfynu ei wneuthur, o'r hyn ag y mae trwy holl gyfnewidiadau amser yn gweithio tuag at ei gwblhau, ac o'r hyn a fyn ei weled wedi ei orphen yn y nef. Ond hyd yn hyn, yn mae " teml sanctaidd yn yr Ar- glwydd " yn berffaith yn meddwl Duw yn unig. Yn anmherffaith y mae ymhob man arall eto. Yr hyn sydd yn bod yn ei feddwl yw cael " teml,'r teml o ddynion ; nid o gerig, pe byddent feini gwerthfawrocaf y byd. Fe gafodd deml o gerig, yr hon a gynlluniwyd gan Dafydd, ac a adeiladwyd gan Solomon, ac a ddinystrwyd gan Nebuchodonosor, ond dinystrwyd hi i'w hail adeiladu gan Zorobabel, ac i'w dinystrio drachefn gan Titus, Yra- herawdwr Rhufain. Teml o ddynion, ac nid teml o angylion; y mae j rhai hyny ganddo yn barod, ac wedi eu cysylltu â'u gilydd gan allu Creawdwr. Teml o ddynion, nid o un person; fe gafodd hyny yn Mherson yr Arglwydd Iesu, yr hwn oherwydd hyny yw sail a phen congl- faen i deml o ddyuion. Fel y mae meini mewn adeilad yn yr undeb agosaf â'u gilydd sydd yn bosibl i feini fod ynddo, felly yn y deml o ddynion, y mae dynion sydd yn feini ynddi yn cael eu dwyn i'r undeb- agosaf y gall dynion fod ynddo. Y mae yn bwriadu i'r deml hon fod yn deml sanctaidd—sanctaidd yn ystyr oreu ac uchaf y gair. Yn yr ystyr ag y medr dyn fod yn sanctaidd, a hwnw yn yr ystyr ag y mae Duw yn sanctaidd. Y mae hwn yn ystyr uwch na'r hyn a feddylir pan ddywedir fod Jerusalem yn ddinas sanctaidd, oherwydd neillduad lle i ordinhadau crefydd oedd hwnw. Y mae yn uwch na'r hyn a feddylir pan ddywedir fod mynydd y gweddnewidiad yn sanctaidd, oherwydd neillduad lle i'r Tad lefaru oedd hwnw. Yn uwch nag a feddylir pan ddywedir fod y