Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Jladmergál Cyf. V. EBRILL, 1889. Rhif 52. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. OAN T PARCH. D. CHARLES DAYIBS, M.A., BANGOR. RHIF LII. "Wedi eich goruwch adeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben conglfaen."—-Eph. ii. 20. Yic yr adnod hon, cymharir credinwyr i adeilad, i'r hwn y mae yr Arglwydd Iesu yn ben conglfaen. Y mae yr ymadrodd wedi ei ddyfynu o Salin cxviii. 22; ac yn cael ei ddefnyddio yn fynych yn y Testament Newydd, a chymhwysir ef ymhob man at yr Arglwydd Iesu. Yr hwn a'i cymhwysodd gyntaf oedd Iesu Grist ei hun. Wrth gyfeirio at waith yr Iuddewon yn ei wrthod dywed,—" Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr Ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl; gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni." Y mae yr adnod yn y Salm yn cynwys dau syniad,—Ei wrthodiad gan yr adeiladwyr, a'i osodiad yn ben congl. Y mae yr Arglwydd Iesu yn egluro fod gwrthodiad y maen gan yr adeiladwyr yn cynwys ei draddodiad ef i farwolaeth gan y genedl Iuddewig. Y mae Paul a Phedr yn egluro y rhan arall, trwy ddangos mai yn ei adgyfodiad o'r bedd y gosodwyd ef yn ben congl. Esboniad Paul ar y gair pen conglfaen yw, ei fod yn rhwymyn adeilad wedi ei chyfansoddi o genhedl- oedd ac Iuddewon crediniol. Wrth sylwi ar y Salm, gwelir fod yr adnod gyntaf a'r olaf o honi yn cynwys y geiriau a ganwyd, yn gyntaf, wrth gysegru teml Solomon ar ol ei gorphen (2 Chron. v. 13 ; viii. 3) ; ac yn ail, ar adeg sylfaeniad yr ail deml (Ezra iii. 10, 11); ond y mae yn fwy naturiol meddwl fod yr holl Salm wedi ei chyfansoddi at yr ail amgylch- iad yn hytrach na'r cyntaf. Yr oedd amgylchiadau y genedl yn wahanol iawn ar y ddau achlysur yma. Yn amser Solomon, yr oedd yn ei gogon- iant uchaf; yn amser Ezra, yr oedd mewn iselder mawr ar ol y caethiwed hirfaith yn Babilon. Y mae y cyfeiriad sydd yn y Salm at ing blaenorol, a gwaredigaeth o ing; at gosb flaenorol, ac arbediad rhag marwolaeth, yn