Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mnwüii Cyf. V. MAWRTH, 1889. Rhif 51. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. EHIF LI. " Weithian, gan hyny, nid ydych chwi ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd- ddinasyddion a'r saint, ac yn deulu Duw."—Eph. ii. 19. Y mae yn amlwg oddiwrth gysylltiad yr adnod hon â'r adnodau blaenorol mai y " chwi" yma yw y cenhedloedd crediniol oedd yn aelodau o'r *eglwys yn Ephesus. " Weithian, gan hyny,—o hyn allan wedi eick cymodi â Duw,—nid ydych yr hyn oeddych o'r blaen, " yn ddieithriaid a. dyfodiaid," ond yn rhywbeth tra gwahanol. Y mae yr ymadrodd "cyd- ddinasyddion â'r saint" yn codi oddiar adnod y ddeuddegfed. Yr oeddych yn ol yr adnod hono wedi eich dieithrio oddiwrth wladwriaeth Israel; ond yn awr, wedi eich cymodi, yn gydwladwyr â'r saint. Wrth " Israel " yn yr adnod hono y meddylir y genedl Iuddewig; wrth y "saint" yn hon y meddylir gwir dduwiolion yn neillduol. Israel oedd wedi ei neillduo gan Dduw o blith cenhedloedd eraill i freintiau crefyddoL Y neillduad hwnw oedd yn ei gwneyd yn genedl sanctaidd. Yr oedd llawer o honynt yn bobl dduwiol; ond nid ar gyfrif sancteiddrwydd personol neb o'r genedl, ond ar gyfrif y rhagorfreintiau yr oedd yr holl genedl yn fwynhau y cyfrifid hi yn genedl sanctaidd. Yr oedd y breintiau hyn mor hollol i'r Iuddewon yn unig fel nad oedd modd i'r cenhedloedd eu mwynhau, ond trwy gael eu gwneuthur yn Iuddewon yn. gyntaf. Er y caent orphwys ar y Sabbath, ni chaent fwyta y pasg heb eu henwaedu,—yr hyn oedd yn profi mai sefydliad Iuddewig oedd y pasg, ond mai nid sefydliad Iuddewig oedd y Sabbath. Am hyny er bod y cenhedloedd yn ymgymysgu â'r Iuddewon fel gweision ac fel masnachwyr, ac er eu geni yn ngwlad Canaan, yr oeddynt yn ddieithriaid i freintiau crefyddol, gogoniant y genedl Iuddewig,. ac yn ddyfodiaid,—yn ymdeithwyr, yn ymwelwyr,—i'r wlad. Fel yr oedd Israel yn sanctaidd ar gyfrif eu breintiau, y mae duwiolion yn sanctaidd ar gyfrif eu hegwyddor a'u hymarweddiad. Rhagoriaeth yr