Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. V. CHWEFROR, 1SS9. Rhif 50. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAX Y PAHCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF L. " Oblegid trwyddo Ef y mae i ni ein dan ddyfodfa mewn un ysbryd at y Tad."—Eph. II. 1S. Y mae y gair ' oblegid ' yn yr adnod hon yn dangos fod y gwirionedd sydd! ynddi yn rheswrn paham y pregethodd yr Iesu dangnefedd. Ond y mae- yma gysylltiad rhwng y pregethwr â chynwysiad ei weinidogaeth, na eheir mewn un amgylchiad arall. Yr cedd yr angel yn pregethu tangnefedd wrth fugeiliaid Bethlehem, ond nid y rheswm am hyny oedd mai trwyddynt hwy yr oedd dyfodfa at y Tad. Y mae dynion eto yii pregethu tangnefedd, ond nid am mai trwyddynt hwy y mae dyfodfa at y Tad. Ac os oes rhai gweinidogion Pabaidd neu Brotestanaidd yn dywedyd hyny, y maent yn honi iddynt cu hunain yr hyn sydd yn? perthyn i Grist yn unig, a'r hyn na fedr Ef gyfranu i neb arall. Gweddus oedd iddo Ef, yn yr hwn y mae dyfodfa i bawb at Dduw, bregetlm tangnefedd i bawb. Y mae cysylltiad rhwng yr adnod hon hefyd â rhediad ymresymiad yr apostol yn yr holl frawddeg. Yr amcan yw dangos cyfeiriad yr efengyl at fyd, ac nid at un genedl o'r byd. Y mae yn dangos fod yr amcan hwn yn cael ei gyraedd trwyddi, am fod ei darpar- iaeth yn gymwys i angenion y byd. Y mae yr angenion yn dri math,— angen gwrthddrych i gyfeirio ato, angen ffordd i arwain ato, ac angen nerth i rodio ar hyd y ffordd hono. Yn ngwyneb y drindod o angcnion, y mae yr adnod hon yn gosod allan drindod o bersonau i'w diwallu. Y mae y drydedd adnod ar ddeg yn dangos y byd yn cael ei ddwyn at- un Tad. Yr oedd y genedl Iuddewig wedi ei dwyn ato yn gysgodol, trwy waed cysgodol. At hwnw y dygir ni yn wirioneddol trwy waed sylweddol yr Aberth Mawr. Yn adnod 14eg hyd yr 16eg, dangosir y