Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. IV. RHAGFYR, 1S8S. IÌHIF 48. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XLVIII. " Ac fel y cymodai y ddau â Duw yn un corfftrwy y groes, wedi lladd y gelvn- iaeth trwyddi hi."—Eph. ii. 16. Y MAE yr Apostol yn daugos yn y geiriau hyu fod golwg yr Arglwydd Iesu yn ei waith cyfryngol ar fyd, ac nid ar genedl o ddynion. Y mae y byd yn yr adnod hon yn cael ei ystyried mewn tri golygiad : yn gyntaf, fel y mae wedi ei ranu yn " ddau." Fe'i rhanwyd gan Dduw oddiar Sinai, pan y cyhoeddodd ddeddf y gorchymynion mewn ordeiniadau, yr hon a wnaeth wahaniaeth rhwng cenedl Israel a chenhedloedd eraill. Yr oedd y ddeddf hono yn llinell wedi ei thynn ar draws dynolryw; un genedl un ochr iddi, a'r holl genhedloedd yr ochr arall. " Yr oedd hon yn gwneuthur gwahaniaeth rhwng Iuddew a chenedl-ddyn, rhwng caeth a rhydd, a rhwng gwryw a banyw. Ac er fod y ddeddf foesol o ran ei hegwyddorion yn gymwys i fyd o ddynion, yr oedd hono, fel ei rhoddwyd oddiar Sinai, yn cydnabod rhyw " ddau,"— " Tydi yr hwn a ddygwyd allan o'r AifTt, a'r dieithr-ddyn o fewn dy byrtíi." Wrth Sinai y rhanwyd y byd yn ddau gan Duw ei hun. Yr ail olygiad, yn yr hwn yr edrychir ar y byd yn un: ond yn un mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ac angen cymod. Fe gymer- odd y gwrthryfel le.yn Eden. Duw a wnaeth y rhaniad ar Sinai, ond dyn a wnaeth y pellder yn Eden. Yn Eden yr oedd y byd yn ■un : wedi syrthio mewn un person, trwy un weithred, i'r un cyflwr euog. Yno nid oedd gwahaniaeth rhwng Iuddew a Groegwr, caeth na rhydd, gwryw a banyw ; ond pechod oedd bob peth, ac ymhob peth. Y trydycld golygiad ar 3* byd yw, yn un mewn cymod. Fe wnaed hyn trwy y groes ar Galfaria. Yr oedd yma un mwy nag Adda a Moses. Yr oedd Adda o'r ddaear yn ddaearol, ond Crist yn Arglwydd o'r nef; mawredd uchaf Adda oedd