Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mttwtói Cyf. IV. TACHWEDD, 1888. Rhif 47. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XLVII. " Ac a ddiryraodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorehymyn- ion mewn ordeiniadau, fel y creai y ddau ynddo ei hun yn un dyn newydd, gaa wneuthur heddwch." Eph. ii. 15. Y MAE yr ymadrodd " creu yn Nghrist" wedi ei ddefnyddio gan yr apostol o'r blaen yn y lOfed adnod; ond er fod yr ymadrodd yr un, y mae gwahaniaeth yn eu cysylltiadau, ac yn amcan yr apostol wrth eu defnyddio. Yn y lle cjntaf, fe'i defnyddir i ddangos mai gwaith gras Duw yw tröedigaeth pechadur, ond yma i ddangos mai amcan gwaith cyfryngol Crist ydyw dychwelyd pechadur,—" fel y creai." Y gwaith neillduol o'i eiddo y cyfeirir ato yw ei farwolaeth; oherwydd wrth farw y datododd ganolfur y gwahaniaeth. Trwy osod y ddau wirionedd gyda'u gilydd, cyrhaeddir un arall, sef mai gwaith presenol gras ar galon pechadur yw cwblhau amcan Crist wrth farw; oherwydd fe fu farw " fel y creai." Pa fodd bynag yr edrychir ar greu pechadur o newydd,—pa un a esgynir i edrych arno o safle ì)uvv,—neu a ddisgynir i edrych arno o safle pechadur,— creu yn Nghrist ydyw o bob cyfeiriad. Pan y mae gwrthddrych ar ochr y bryn, nis gellir ei weled ond o un cyfeiriad; ond pan y bydd ar ei ben, gellir ei weled o wahanol gyfeiriadau. Felly y mae Crist mor arbenig yn nhrefn y cadw, fel y gwelir ef ynddi o'r nef neu o'r ddaear; o safle gras Duw, neu o safle dyledswydd dyn. Ac os na welir ef, y mae hyny yn ddigon o brawf mai nid ar drefn cadw pechadur yr edrychir. Yn yr adnod hon, priodolir creu i'r Mab ; mewn adnodau eraill sonir am greu trwyddo ef, ynddo ef, ac erddo ef; ond yma dywedir ei fod ef ei hun yn creu. Yn y Testament Newydd, nid i un o'r personau—megys Tad, Mab, ac Ysbryd__y priodolir creu, ond i Dduw bob amser, oddigerth rnewn un man. " Yr eithriad ydyw adnod y testyn, lle y priodolir creu i'r Mab. Oddiar hyn gellir casglu mai nid gwaith priodol i un person, ond i'r Duwdod yw creu. Fel Duw y mae y Mab yn creu: ond pan gysylltir creu â'i berson ef yn neillduol, dywedir creu trwyddo ef. Yn yr adnodau blaenorol, fe sonir am dano fel Cyfryngwr, yn