Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

laáttërgdi Cyf. IV. MEDI, 1888. Rhif 45. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PAECH. D. CHAELES DAYIES, M.A., BANGOR. HHIF XLV. " Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddat- ododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni.''—Eph. ii. 14. Y MAE y Beibl yn gyffredinol, a'r adnod hon yn neillduol, yn gosod arbenigrwydd ar berson yr Arglwydd Iesu. " Canys Efe—Efe ei hun; Efe, nid neb arall—yw ein tangnefedd ni." Efe mewn cyfer- byniad i'r amgylchiadau y bu ynddynfc, a'r gweithredoedd a gyf- lawnodd. Nid oedd yr amgylchiadau y bu ynddynt yn ychwanegu dim at fawredd ei berson, tra yr oedd ei berson yn gosod pwys ar yr amgylchiadau; ie, yn gosod yr holl bwysigrwydd sydd yn perth- yn iddynt. Fe enwir yn yr adnodau cylchynol rai pethau ynglŷn â Christ; eto, gyda phwyslais medd yr apostol, " Efe (ei hun) yw ein tangnefedd ni." Y mae son am " waed Crist" yn dwyn i'n cof ei ddioddefiadau a'i angau ; ond fe ofalodd yr Ysbryd na roddai yr un o'r ysgrifenwyr sanctaidd y pwys ar yr angau, ond ar yr hwn a fu farw,—nid ei waed, ond efe ei hun. Ni ddywedir i'w waed ef ein rhyddhau ni, ond iddo ef trwy ei waed ei hun gael i ni dragy- wyddol ryddhad. Y mae Paul yn ymffrostio yn nghroes Crist, ond eto uid y groes, ond efe ei hun yw ein tangnefedd ni. Ni ganwn eto " Am waed yr Oen er maint ein poen a'n pla," ac am fod "Duw y duwiau wedi ymddangos yn nghnawd a natur dynolryw ;" ond nid anghofiwn y person. Ni feiddiem roddi i Bethlehem, lle y gwnaethpwyd ef yn gnawd, na Chalfaria, lle y bu farw ar y groes, "y clod, y mawl, a'r parch, a'r bri," sydd yn perthyn i'r person gogoneddus a anfarwolodd y ddau yn hanes y byd, ac a'u cysegrodd yn nheimladau miloedd o bechaduriaid. " Hebddo ef (mewn iach- awdwriaeth) ni wnaethpwyd dim ar a wnaethpwyd." A yw y per- son gymaint uwch na phawb a phobpeth arall yn ein meddyliau a'n caîonau ni, ag y mae yn uwch na phawb arall yn y Beibl ? Ai Efe yw ein cwbl, ac nid ei enw a'i hanes yn unig ? " Efe yw ein tangnefedd ni." " Efe a wnaeth dangnefedd," medd