Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMîitfrgái Cvf. IV. MEHEFIN, 1S88. Hhif 42. Y LLYTHYlt AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHAELES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XLII. Am hyny cofiwch, a cliwi yn genhedloedd yn ol y cnawd, y rhai a elwir yn ddienwaediad, gan vr hyn a elwir enwaediad o waith líaw yn v cnawd. Eph. ii 11. Er fod gwahaniaeth hanfodol rhwng personau a phethau, y mae y fath gysylltiad rhyngddynt, fel y siaredir yn y Beibl, yn gystal ag mewn ymddiddan cyffredin, am bethau fel pe baent bersonau, acam bersonau fel pe baent bethau. Llefarir am bethau fel personau gan mwyaf mewn barddoniaeth. megis y gelwir ar y tân, yr eira, y tarth, y gwynt, y mynyddoedd, a'r coed i foli yr Arglwydd. Dychymyg sydd fel creawdwr yn anadlu anadl einioes mewn pethau difywyd : ac fel y creodd Duw Adda ar ei ddelw ei hun, y mae dychymyg yn peii i bethau feddwl a theimlo yn ol delw y meddwl a'r teimlad dynol. O'r ochr arall, llefarír am bersonau fel pethau. Fe wneir hyn oherwydd y cysylltiad agos sydd rhwng personau a phethau yn hanes ac amgylchiadau y byd. Fc sonir am farn y wlad, pryd y meddylir trigolion y wlad ; am benderfyniad Ty y Cyffredin, pryd y meddylir y dynion sydd yn eistedd yno fel cyn- rychiolwyr y cyfíredm. Y mae yr un dull i'w gael yn y Beibl : ac yn adnod y testyn, sonir am bersonau fel pe buasent bethau : " y rhai," sef y ccnhedlocdd, " a elwir dienwaediad," fel pe buasent bethau. Nid " rhai dienwaededig," fel pe buasent bersonau, "gan y rhai," sef yr Iuddewon, "a elwir enwaediad," &c, nid " rhai enwaededig," fel pc buasent bersonau. Y rheswm am lefaru }Tn y dull yma mewn iaith gyrlredin ydyw, rhyw gyfFelyb- rwydd neu berthynas rhwng y pethau a enwir â'r personau y cyfeirir atynt. Yr un rheswm sydd i'w roddi am y dull hwn yn y Beibl hefyd. Y cîull cyfTredin yn iaith yr Hcn Destament o ddangos cysylltiad agos rhwng dyn â rhyw beth, neu egwyddor, yw, priodoli yr un cysylltiad rhyngddo â îiwynt ag sydd rhyngddo â'i rieni naturiol. Benthj^cir perthynas natnriol i osod allan agos- rwydd cj^sylltiad moesol ac ysbrydol. Gan mai Iuddewon oedd ysgrifenwyr y Testament New^'dd, defnyddient briod-ddull yr iaith.