Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMnwgdÌ Cyf. IV. EBRILL, 1S88. Rhif 40. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PAECH. D. CHARLEs DAYIES, M.A., BANGOE. RHIF XL. ' Canys ei waith ef ydym, wedi er'n creu yn Nglirist Iesu i weithredoedd da, y r'hai a rag-ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.—Eph ii. 10- Y mae cysylltiad yr adnod hon â'r rhai blaenorol yn dangos fod y pwyslais wrth ddarllen i'w osod ar y gair " ef." Yr hyn sydd yn penderfynu y pwnc yw ffurf nacaol y geiriau blaenorol. Amcan y ffurf nacaol bob amser ydyw cadw y darllenydd rhag syrthio i gamgymeriad y gallai syrthio iddo. Gwedir yn y geiriau blaenorol fod eu hiach- awdwriaeth o honynt eu hunain, er mwyn rhoddi pwys ar yr hyn a ddywedir yn y geiriau hyn, mai Duw yw ffynhonell iachawdwriaeth pechadur ; a lle y mae pwys y meddwi, yno y dylai fod pwys y llais. •"Nid o honoch eich hunain......Canys ei waith ef ydym." Yn yr wythfed adnod, dywedir fod cadwedigaeth pechadur yn rhodd Duw, ac yn y testyn fod y rhai a gedwir yn waith Duw. Y mae y cyntaf yn dangos fod cadw pechadur o ras ; a'r ail y cedwir pechadur gan allu Duw, ;a'r ddau mai gras sydd yn ysgogi y fraich i achub. Yn y cyntaf, y mae pechadur yn derbyn rhodd o law Duw, yn yr ail, y mae y >credadyn yn cael ei fôd, ei fywyd, gan Dduw; a'r pechadur a dderbyniocld y rhodd yw y credadyn sydd yn cael ei fywyd. Y gwirionedd mawr sydd yn rhwymo y ddau yma gyda'u gilydd yw, mai rhoddi cadwedigaeth i bechadui yw ei wneuthur yn ddyn arall—y mae y rhodd yn gwneuthur j derbynydd yn ddyn newydd. Yma, y dyn yw ei egwyddor, ac y mae •dweyd fod un yn ddyn newydd, yr un petli a dweyd fod ansawdd newydd ar ei feddwl,—fod egwyddor newydd yn ei lywodraethu. Dyma yr unig rodd sydd gan Dduw sydd yn newid calon y derbyniwr. Nid yw rhoddi cyfoeth, hawddfyd, neu adfyd, yn newid egwyddor y sawl sydd yn eu derbyn ; yr amgylchiadau sydd yn newid, a'r dyn yn aros yr un. Y rhodd nesaf i gadwedigaeth yw addysgu y meddwl; ond er bod y . nesaf, y mae yn anfeidrol is. Gwaith addysg y\y tynu allan alluoedd y