Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMmeroii Cyf. IV. CHWEFROR, 1888. [Rhif 38 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHIF XXXVIII. " Canys trwy ras yr ydycli yn garlwedig, trwy ffydd ; a hyny nid o honoch eich hunain : rhodd Daw ydyw."—Eph. ii. 8. Y ma.e y gair " canys " yn cysylltu y geiriau hyn â'r adnodau blaenorol : a'r gwirionedd a ddysgir yno yw, i Dduw achub yr Ephesiaid er rawyu dangos ei ras yn eu hachubiaeth. " Canys trwy ras yr ydych yn gadw- edig," Fe ddangosodd ei ras yn eu hiachawdwriaeth, am mai trwy ras yr o^ddynt yn gadwedig. Y mae Duw hefyd ymhob peth yr hyn y mae yn ei ddangos ei hun. Fe ddangosodd ei allu yn hanes Pharaoh, am fod yno allu yn gweithredu : fe ddangosodd ei gyfìawnder mewn Iawn, am fod yno gyfiawnder yn taro : fe ddangosodd ei ras yn iachawdwriaeth pechadur, am mai ei ras a'i cadwodd. Y mae cymeriadau dynion yn llawn plygion : y mae brâd yn llechu dan gysgod cusan cariad : y mae y fath beth ymhlith dynion a gweniaith ar y tafod, ond gwenwyn gelyniaeth yn y galon. Ond y mae cymeriad Duw yn unplyg, anfeidrol, ac y mae yn bosibl i ni fethu deall Duw oddiar dybied ei fod yn llawn plygion fel yr ydym ni. Y mae cymeriad Duw yn loew, yn dryloew ; ac y mae pob tywyllwch sydd yn ymddangos yn ei oruchwyliaethau i'w briodoli i wendid ein llygaid ni. Y mae dau fath o ddyfnder, dyfnder twyll, a dyfnder mawredd. Y cyntaf yw " dyfnder Satan," sef cynllwynion y diafol; yr ail yw "dyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw." Os yw yn bendithio â'i enau, y mae ar yr un pryd yn bendithio â'i galon. Pe tybiem am foment fod Duw yn rhywbeth amgen nag y mae yn ei ddangos ei hun, ni a gollem bob ymddiried ynddo a pharch tuag ato ; ac ni fyddai ei anghredu yn bechocl. Os dangosodd Duw ras yn iachawdwr- iaeth yr Ephesiaid, mae hyny am mai o ras y cadwyd hwynt. Nid yn unig, nid yw Duw yn dangos teimladau gwahanol i'r hyn sydd ganddo, ond hefyd, nid yw yn dangos teimladau uwch o ran graddau nag sydd gandclo; nid yw yn dangos llawer o ras tra yn meddu ond ychydig o hono. Y mae gras, nid o tan natur, ond grada.su helaeth o hono wedi ei