Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. III. IONAWR, 1SS8. [Rhif 73. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR. RHUF. XXXVII. " Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gyrnwynasgarwch i ni yn Nghrist Ie.su."—Eph. ii. 7. Y mae y gair "fel" yn dangos amcan. Yn yr adnodau o'r blaen dar- lunir y cyfnewidiad a wnaed trwy ras ar gyflwr a chalon ac ymarwTeddiad yr Ephesiaid, ac y mae yr adnod hon yn cynwys amcan Duw yn eu dych- weliad. Os gadewir allan "yn yr oesoedd a ddeuai/' y mae yr adnod mor wir am bob pechadur a gedwir ag ydoedcl am yr Ephesiaid dych- weledig. Y mae pob pechadur wrth natur yn yr un cyflwr peryglus, yn meddu ar yr un galon ddrwg, a llawer yn byw yn yr un ymarweddiad llygredig a'r Ephesiaid; ac y mae pob credadyn yn cael ei ryddhau o afael pob marwolaeth, ac yn cael ei ddyrchafu mor uchel i fíafr Duw a hwythau: Am hyny, y mae golud gras Duw yn ymddanges mor amlwg mewn cymwynasgarwch tuag at bob eredadyn yn Nghrist ag yr ymddang- osodd tuag at yr Ephesiaicl. Ond am gredinwyr yn gyfíredinol, ni fydd "yr oesoedd a dcleuai" yn gwybod ditn am danynt. Fe glecldir y côf am danynt gyda'u cyrph ; ymhen ychydig o flynyddoedd ni bydd neb yn gwybod dim am'danynt. Hwy fyddant am byth yn y nef yn canmol y gras a'u cadwodd, ond fe fydd trigolion y ddaear yn yr oesoedd dyfodoi heb wybod dim am danynt. Ond am yr Ephesiaid, fe fydd y cyfnewid- iad a wnaed arnynt hwy yn hysbys trwy y Beibl i'r oesoedd a ddeuai. Y mae dinas Ephesus yn garnedd o adfeilion, ond y mae hanes y gwaith a wnaed yno wedi ei groniclo gan fys Duw • tra y bydd Beibl ar gael bydd hanes gwaith gras yno ar gael hefyd. Y mae y gair " ni " yn cyn- wys Paul ei hun gyda yr Ephesiaid. Fe gaiff yr oesoedd hyd ddiwedd y byd wybod am yr erlidiwr a dröwyd yn weddiwr : y penaf o bechaduriaid, y penaf o'r apostolion. Sylwn, L, ar y gwir cyffredinol yn yr adnod am bob credadyn ; II., y gwir neilldnol yn yr adnod am gredinwyr Ephesus. I. Y Gwir Cyffredinol y$ yr Adjstod am bob Credadyn.—Y mae rhagorol olud gras Duw yn ymddangos tuag ato yn Nghrist Iesu.