Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyf. III. TACHWEDD, 1887. Rhif 35 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANG0R RHIF XXXV. " Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn ehwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau ; ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys eraill. Eithr Duw, yr hwn sydd gyf- oethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni; îe, pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ (trwy ras yr ydych yn gadwedig).— Pen. ii. 3, i, 5. Y mae yr Apostol yn dangos mawredd cariad Duw yn yr adnodau hyn, trwy ddangos pa fath rai a garwyd, o ran eu hymarweddiad, eu hegwydd- orioD, a'u cyflwr. Y mae yn dangos eu perthynas â helynt y byd, â llyw- odraeth y diafol, â thueddiadau drwg eu calon, ac yn olaf oll â Duw ei hun; ac yn profì eu bod ymhob golygiad yn llygredig a thruenus. Y darlun olaf o honynt yw eu bod " wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill." Y mae dau ystyr i'r gair " digofaint." Y mae yn egwyddor, ac yn nwyd. Y mae esiampl o'r ddau yn yr un benod yn y llythyr hwn. Fel egwyddor, y mae yn ddyledswydd ei magu, am hyny dywedir, " Digiwch, ac na phechwch." Fel nwyd, y mae yn ddyledswydd ei marweiddio, am hyny dywedir, "Tyner ymaith oddiwrthych bob chwerwedd, a llid, a dig," &c. Y mae yn gymaint o bechod peidio digio yn yr ystyr gyntaf ag ydyw digio yn yr ail ystyr. Wrth ddigofaint yn Nuw y meddylir, nid unrhyw nwyd wyllt yn ei natur yn ei gynhyrfu i daro pechadur, ond gwrthdarawiad ei natur sanctaidd yn erbyn pechod. Pan y mae dyn dan lywodraeth nwyd ddigofus o herwydd rhyw gam a ddioddefodd, y mae ei farn wedi gwyro; ni wrendy ar amddiffyniad yr hwn a'i niweidiodd—ni rydd o'i blaid yr hyn y dylid ei roddi—y mae yn mwyhau y camwedd yn ei ddychymyg—a phe gallai fe'i cosbai uwchlaw ei haeddiant. Y mae nwyd yn arwain i anghyfiawnder; ac am hyny, mewn pob gwlad wareiddiedig, y mae cosbi wedi jei drosglwyddo o law nwyd i law cyfraith. Yn ol cyfraith, fe wrandewir ar y ddwy ochr—fe holir yn fanwl am wirionedd—fe bwysir y tystiolaethau o bob tu, ac yn ol y dystiolaeth y bernir euogrwydd gan y rheithwyr, ac y cyhoeddid y