Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JMnwMÌ Cyf. III. ;HYDREF, 1887. Rhif 34 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXXIV. " Yn mysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys eraill."—Eph. ii. 3. Y mae yr apostol yn yr adnod flaenorol yn galw y Cenhedloedd yn Eglwys Ephesus dan y rhagenw " chwi," ac yn dangos pa fodd yr oeddynt yn byw " gynt," cyn iddynt gredu. Yn yr adnod hon y mae yn cymeryd golwg ehangach, ac yn cynwys yr Iuddewon ynghyd â'r Cenhedloedd yn y geiriau, " ni oll;" ac yn dangos bod ymarweddiad y naill fel y Uall yn Uygredig yn yr un modd ac i'r un graddau. Nid yw yn dweyd eu bod yn euog o'r un pechodau a'u gilydd; nid yw yn gymaint ag enwi yr un pechod, ond "chwantau ac ewyllysiau." Nid oeddynt yn euog o'r un pechodau. Yr oedd y Cenhedloedd yn Ephesus yn euog o eilunaddoliaeth (Actau xix. 24); a'u heilun oedd y dduwies fawr Diana; tra yr oedd y genedl Iuddewig yn hollol rydd oddi wrth y pechod hwn ar ol eu dychweliad o Babilon. Ond er pob gwahaniaeth yn y pechodau yr oeddynt yn euog o honynt, nid oedd dim gwahaniaeth yn ansawdd gyffredinol eu chwantau a'u hewyllysiau. Ac am hyny y mae yr apostol yn enwi nid pechodau neillduol, ond nodwedd gyffredinol eu hymarwedd- iad. Yn hwnw yr ydym " ni oll" fel ein gilydd. Mewn mynwent y mae amrywiaeth mawr yn y clefydau o ba rai y mae y rhai sydd yn gorwedd yno wedi marw ; ond ar y gareg fedd ni enwir y clefyd neillduol a laddodd yr hwn sydd yn gorwedd dani, ond, "Bu farw;" y nodwedd gyffredinol sydd yn perthyn i'r oll a gladdwyd rhwng ei muriau. Gallem ninau fod yn rhydd oddiwrth lawer o weithredoedd annuwiol, a gyflawnir gan ddynion, mewn canlyniad i'r addysg foesol a gawsom, a'r sefyllfa fydol yr ydym yn byw ynddi, ac eto o ran ansaẅdd y galon ac egwyddorion y fuchedd, fod yn yr un dosbarth a'r lladron, y meddwon, a'r llofruddion. Pe gwelai llawer un ei galon a'i ymarweddiad fel y maent mewn