Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

%Mmm&A. Cyf. III. MEDI, 1887. Rhif 33 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PAECH. D. CHAELES DAYIES, M.A., BANG0R RHIF XXXIII. " Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol lielynt y byd hwn, yn ol tywysog llyw- odraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awr hon yn gweithio ym mhlant anufudd- <lod.— Eph. ii.*2. Y mae yr adnod hon yn dangos fod cysylltiad rhwng natur foesol ym- ddygiadau dynion â rhyw reol yn ol yr hon y maent yn gweithredu. Y mae nodwedd yr ymarweddiad yn cael ei ddarlunio yn y geiriau,—"yn y rhai (sef mewn camweddau a phechodau) y rhodiasoch gynt." Fel y dar- lunir aunuwiolion o ran cyflwr yn yr adnod o'r blaen " yn feirw mewn camweddau a phechodau," fe'u darlunir yma o ran eu bucliedd yn "rhodio" ynddynt. Tra yr oeddynt mewn cyfiwr drwg, yr oedd eu buchedd yn llygredig ; "gynt," cyn credu, yr oeddynt yn stâd bresenol plant anufudd-dod. Ystyr gyntaf rhodio yw symudiad corff; ei ail ystyr ydyw ymarweddiad, neu ddull arferol o fyw. Os defnyddir yr ystyr gyntaf i daflu goleuni ar ei ail ystyr, y mae " rhodio mewn pechodau " yn darlunio pechadur ynddynt, yn gadael un pechod i osod ei droed ar ua arall gwaeth feallai na'r cyntaf ; o bechod i bechod, nid yw byth yn croesi y terfyn. Mewn peehodau y mae yn rhodio. Y mae rheol bywyd dyn annuwiol yn cael ei gosod allan yn y geiriau, "ynol," "yn ol helynt y byd hwn," "yn ol tywysog llywodraeth yr nwyr." Nid dwy reol sydd yma, ond rheol ei ymddygiad sydd i'w hystyr- ied mewn dau olygiad. Y cyntaf, " yn ol helynt y byd hwn " fel rheol ag y mae y dyn ei hun yn ymwybodol o honi; yr ail, " yn ol tywysog llyw- odraeth yr awyr, fel y cynllun i dwyllo sydd gan yr ysbryd drwg. CTallem ddychymygu adnod debyg yn darlunio bywyd Cristion. Ar ol enwi amryw rinweddau, megis "cariad," "llawenydd," &c., yna dywedyd, "yn y rhai y mae yn rhodio yn ol gair y gwirionedd yn ol ewyllys Duw.' Pe buasai y fath adnod yn y Beibl, ni feddyliasai neb fod gan Gristion ddwy reol i'w dilyn, ond fod yr un rheol yn ddatguddiedig yn y gair, ae