Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JWmergdl Cyf. III. GORPHENAF, 1887. Rhif 31 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAID. GAN Y PARC'II. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXXI. " Ac a ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef, ac a'i rhoddea ef yn ben uwchlaw pob peth i'r eglwys, Yr hon yw ei gorff ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd yn cyflawni oll yn olL Eph. i. 22, 23. Y mae adnodau olaf y benod hon, o'r 20fed i'r diwedd, yn cynwys rliestr o'r pethau anrhydeddus a dderbyniodd yr Iesu gan ei Dad mewn canlyniad i'w ufudd-dod hyd angau. Y peth cyntaf oedd, ei gyfodi o'r bedd— oddiwrth y meirw i blith y byw; yr ail oedd, ei ddyrchafu o'r ddaear i eistedd ar ddeheulaw Duw—goruwch pawb ond ei Dad, a chyfuwch â Duw ei hun. Y mae pob gwahaniaeth rhwng y naiil greadur a'r llall yn ddim pan y cymherir ef â'r gwahaniaeth rhwng y creadur uchaf â'r Cyf- ryngwr yn y nef. Ar ol dringo i ben mynydd uchel, y mae y gwahaniaeth rhwng mynyddoedd îs a'u gilydd yn diflanu o'r golwg yn llwyr; y maent i'r llygad yn gydwastad â'u gilydd, ac yn gydwastad a'r llawr. Y mae yr Iesu goruwch—ymhell uwchlaw pawb—fel y mae pob gwahaniaeth rhwng dyn a dyn, rhwng dyn ac abwydyn, rhwng dyn ac angel, yn difianu o'r golwg, yn ymyl y gwahaniaeth rhwng yr uchaf a'r Iesu. Eto, gan mai Duw ydyw, nid oes un gwahaniaeth mor fychan, er yn rhy fychan i greadur ei weled, nad yw ef yn ei weled ac yn ei iawn farnu. Y peth nesaf oedd, darostyngiad pob peth iddo. Y mae yn fwy nag uchafìaeth—yn fwy na chael ei osod goruwch pob peth. Y mae Ymerawdwr Ffrainc, neu frenin rhyw wlad bellenig, goruwch swyddau a swyddogion cyfFredin y deyrnas hon, o ran sefyllfa a swydd, ond nid yw swyddau na swyddogion y wlad hon wedi eu darostwng i un o honynt. Y mae Crist nid yn unig goruwch pob peth, ond y mae pob peth yn yr ystyr helaethaf wedi eu darostwng iddo. Y mae Crist nid yn unig goruwch pob peth, ond y mae pob peth yn yr ystyr helaethaf wedi eu darostwng tan ei draed ef i'r gradd llwyráf. Yr olaf ydyw, ei lywodraeth ar ei eglwys, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed. Dyma y gogoniant a'r anrhydedd uchaf a