Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JlMuotM. Cyf. III. MAI, 1887. Rhif 29 Y LLYTHYR AT YE EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANG0R RHIF XXIX "Ac a ddarostyngodd bobpeth dan ei draed ef, ac a'i rlioddes ef yn ben uwchlaw pob peth i'r eglwys." Eph. i. 22. Y mae y geiriau hyn wedi eu dyfynu o'r 8fed Salm, ac y mae yn amlwg fod cyfeiriad y Salm hono at yr arglwyddiaeth a roddwyd i ddyn ar y cyntaf, yr hon sydd eto i raddau helaeth yn meddiant dynion. Fe'u dyfynir mewn amrywiol fanau yn y Testament Newydd (1 Cor. xv. 27, a Heb. ii. 8), a pha le bynag y dyfynir hwynt, fe'u cymhwysir yn ddieithr- iad at yr Iesu. Y mae y fath eiriau â " phob peth," oherwydd eu heangder, yn eiriau anmhenodol, ac yn gofyn am esboniad. Yn y Salm fe roddir yr esboniad yn y 7 a'r 8fed adnod, "defaid ac ychain oll, anifeiliaid y maes hefyd; ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd." Ond wedi cymhwyso yr adnod, " Ti a ddaros- tyngaist bob peth dan ei draed ef," at Grist, ni ddyfynir y geiriau esbon- iadol, ac nid yn unig fe adewir yr esboniad allan, ond fe roddir esboniad newydd rhag i neb gamgymeryd. Y mae dwy ffordd i esbonio peth, sef trwy ddweyd pa beth a gynwysir ynddo, a thrwy ddweyd beth na chynwysir ynddo. Wrth son am awdurdod dyn, fe enwir y pethau sydd dan ei lywodraeth; ond y mae yr eithriadau yn rhy liosog i'w henwi; eithr am na chynwysai y byd y llyfrau a ysgrifenid, pe nodid y pethau sydd dan awdurdod Crist, ac nad oes ond un eitbriad fe enwir hwnw. Pob peth wedi eu darostwng iddo " oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bob peth iddo." Felly nid yn gymariaethol, nac yn farddonol, ond yn llythyrenol y mae y greadigaeth, yn bersonau ac yn bethau, yn ei holl eangder, dan lywodraeth yr Iesu. Y mae hen derfynau llywodraeth yr Adda cyntaf wedi eu symud yn llywodraeth yr Ail. Nid oedd llywodraeth y cyntaf yn cyraedd yn uwch nag ehediaid yr awyr, nac yn îs na'r moroedd; ond y mae yr ail yn cyraedd y nefolion, a'r tanddaearolion