Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Wmergdd. Cyf. III. EBRILL, 1887. Rhif 28 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXVIII. " Yr hon a weithredodd efe yn Nghrist, pan y cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn ìy nefolion leoedd ; goruwch poh ty wysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phob enw a enwir, nid yn unig yn y hyd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw."—Eph. i. 20. Y geiriau a arferir yn gyffredin yn y Testament Newydd i ddarlunio sefyllfa Crist yn y nefoedd yw, " Eistedd ar ddeheulaAV Duw." Y mae y geiriau yn dangos gwaith Crist yn teyrnasu. Y man y defnyddir y gair gyntaf yw yn Salm cx. i. ; ac o'r adnod hono, fe gymerir y gair gan yr apostolion i'w gymhwyso at Grist. Y cyntaf i'w ddefnyddio ydyw Crist ei hun (Mat. xxii. 43—45), a'i amcan yw dangos i'r Iuddewon yr uwchaf- iaeth a berthynai i Grist uwchlaw brenin daearol; ac uwchlaw Dafydd ei hun, pan y gelwid ef yn "Arglwydd Dafydd." Fe'i defnyddir yn nesaf gan Pedr yn ei bregeth ar ddydd y Pentecost, ac esboniad Pedr ar yma- drodd y Salm ydyw, " Ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi. Defnyddir ef drachefn gan Paul (1 Cor. xv. 24, 25); ond yn lle dweyd " rhaid iddo eistedd ar ei ddeheu- law," y mae Paul yn ei esbonio trwy ddefnyddio ymadrodd cyfystyr, ac yn dweyd, " Rhaid iddo deymasu, hyd oni osodo ei elynion yn droedfainc i'w draed." Ceir yr ymadrodd eto yn y llythyr at yr Hebreaid i. 13, 14; lle y cyferbynir " Eistedd ar ddeheulaw Duw " â gwaith yr angylion'yn gwasanaethu, ac y mae y cyferbyniad yn dangos uwchafiaeth y Mab ar yr angylion, yn gymaint a'i fod ef yn teyrnasu a hwy yn gwasanaethu. Ac yn olaf yn Heb. x. 11, 12 ; lle y cyferbynir gwaith yr offeiriad Iuddewig yn sefyll yn gwasanaethu, tra y darlunir Crist wedi ofFrymu yn eistedd. Yr oedd yr offeiriaid yn sefyll yn gwasanaethu, fel rhai mewn sefyllfa o israddoldeb; ond yr " Iesu wedi offrymu un aberth, a aeth i mewn i'r