Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JHaáttWgM. Cyf. III. MAWRTH, 1887. Rhif 27 Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXVII. ' A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ým yn credu, yn ol gweithrediad nerth ei gadernid ef; yr hon a weithredodd efe yn _ Nghrist, pan v cyfododd ef o feirw, ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheulaw ei hun yn y neìolion leoedd." Eph. I. 19, 20. Y mae pob ymchwiliad i air a gweithredoedd Duw yn dangos ei fod bob amser yn gweithio yn ol rheol neu ddeddf; a phan y bydd eithriadau yn ymddangos, y mae ymchwiliad dyfnach yn profi eu bod yn esiamplau o ryw ddeddf uwch. Y gair a ddefnyddir yn y Beibl ag sydd yn cynwys fod Duw yn gweithio yn ol rheol berffaitb, yW)—"doeth," neu,—" ddoethineb ; " ac y mae pob darganfydd- iad anianyddol yn cadarnhau gwirionedd y gair. Y mae y gair " rheol " i'w gael yn y Testament Newydd, ond at ddynion y cymhwysir ef, ac nid at Dduw. Yr ymadrodd a ddefnyddir yn y Beibl i ddangos fod gan Dduw reol i'w waith yw y geiriau, yn ol, Yr oedd gan Grist reol i gyflawni gwyrthiau ar gyrff dynion, a'r rheol hono oedd ffydd y claf, neu ffydd ei berthynaeau (Mat. ix. 29). " Yn ol eich ffydd bydded i chwi," meddai wrth y ddau ddeillion. Ac ni chyflawnodd wyrthiau mewn un man oherwydd anghrediniaeth y bobl. Fe fydd ganddo reol i farnu,—" Barn Duw yn ol gwirionedd ;" " Y dydd y barno Duw ddir- geloedd dynion yn ol fy efengyl i" (Rhuf. ii. 2, 22). Pan y mae y daear- egwr yn chwilio i grombil y ddaear—yn disgyn i barthau isaf y ddaear— y mae yn darllen deddf mor eglur a phe buasai Duw ei hun wedi ysgrif- enu â'i fys ei hun ar holl lechau y greadigaeth ddeddf ei ffurfiad, fel yr ysgrifenodd y deng air ar lechau i genedl Israel. Pan y mae y seryddwr yn esgyn i'r nef, y mae yntau yn darllen yno ddeddfau mor eglur a phe buasai ttme-taòie wedi ei argraffu dan ddwyfol ysbrydoliaeth yn nodi pa bryd y digwyddai pob cyfnewidiad. A phan y mae pechadur yn agor ei