Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fMnwtfdÌ Cyf. III. CHWEFROR, 1887. Rhif 26. Y LLYTHYR AT YR EPHESIAÍD. GAN Y PARCH. D. CHARLES DAYIES, M.A., BANGOR RHIF XXVI. " A pheth yw rhagorol fawredd ei nerth ef tuag atom ni y rhai ŷm yn credu yn ol gweithrediad nerth ei gadernid ef."—Eph. i. 19. Y mae yr adnod hon ynghyd a'r un flaenorol yn cynwys darluniad o'r pethau y mae llygaid y galon, wedi eu goleuo, yn eu'gweled. Fe enwir tri o bethau, ac y mae y tri yn ffurfio esgyneb (climax). Y cyntaf a enwir yw,—y gobaith y mae galwad yr efengyl yn ei weithio yn y rhai sydd yn ei derbyn. Y mae y gobaith hwn yn cynwys disgwyliad a hyder am fwynhau perffeithrwydd yn y nefoedd; ac am hyny y mae yn annrhaethol uwchlaw gobeithion uchaf annuwiolion y ddaear, yn gymaint ag y mae cymeriad sanctaidd yn fwy gwerthfawr nag unrhyw feddianau bydol; ac nid yn unig uwchlaw eu gobeithion, ond hefyd uwchlaw eu mwyn- had o bethau y byd hwn, pan y byddont yn eu mwynhau fwyaf. Ond y mae yr hyn y mae Cristion yn ei obeithio mor ysbrydol o ran ei natur fel na fedr llygad calon ei weled na'i werthfawrogi, oddieithr yn gyntaf iddo gael ei oleuo. Yr ail beth a enwir yw,—Golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y saint; neu berffeithrwydd dibechod a mwynhad perffaith y saint yn y nefoedd. Y mae hwn yn cynwys y cyntaf, sef y cwbl y mae y Cristion ar y ddaear yn gobeithio am dano; a mwy na hyny, gan y bydd mwynhad Cristion yn y nef uwchlaw dim a ddisgwyliodd pan ar y ddaear. Wrth obeithio y mae yn disgwyl y bydd ei lestr yn llawn dedwyddwch sanctaidd, ond y mae yn myned ar y dybiaeth mai yr un fydd ei lestr yno ag ydyw yma, Tra y mae yr Ysgrythyr yn dangos y bydd y llestr yn fwy, yn gymaint ag y mae y gwr yn fwy na'r lachgen; ac nis gwyr pa elfenau dedwyddwch y bydd yn eu mwynhau yn ei gyflawn faintioli fel gwr yn y nef, na feddyl- iodd am danynt pan yn fachgen ar y ddaear.